Datganiadau i'r Wasg

Y Darlun Mawr - dathlu Tai'r Chwarelwyr

Amgueddfa Lechi Cymru yn galw ar arlunwyr addawol, braslunwyr brwdfrydig a dwdlwyr deheuig i ddathlu pen-blwydd arbennig tai'r Chwarelwyr

A ydych chi'n arlunydd addawol, yn frasluniwr brwdfrydig neu'n ddwdlwr deheuig? Os felly, Amgueddfa Lechi Cymru fydd y lle i chi yn ystod hanner tymor.

Mae'r Amgueddfa'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn ystod hanner tymor i ddathlu'r ffaith y bydd y Rhesdai Chwarelwyr, 1 - 4 Fron Haul, wedi bod yn yr amgueddfa ers deng mlynedd erbyn 2009. Fel yr eglurodd Julie Williams, y Swyddog Marchnata:

"Cafodd y tai hyn eu symud o Danygrisiau i'r Amgueddfa ym 1999. Erbyn heddiw, maent yn un o'n atyniadau mwyaf poblogaidd, ac mae dros hanner miliwn o bobl wedi camu dros eu trothwy, wedi sefyll o flaen y tân ac wedi rhyfeddu at y storïau sydd ynghudd yn y muriau!"

"I ddathlu'r achlysur, rydym yn awr yn cynnal digwyddiadau fel rhan o'r ymgyrch DARLUN MAWR, sef ymgyrch genedlaethol i gael pobl i dynnu lluniau. Mae adeiladau a chasgliadau'r Amgueddfa wedi ysbrydoli nifer o artistiaid dros y blynyddoedd ac rydym yn gobeithio y bydd Tai'r Chwarelwyr yn annog pobl i dynnu lluniau."

Bydd y digwyddiadau'n cynnwys gweithdai a gynhelir ar Hydref 27 a 28 gyda'r arlunydd lleol Luned Rhys Parri a fydd yn gweithio gyda theuluoedd i greu darnau o gelf i ddathlu'r tai, ynghyd â chystadleuaeth arlunio i greu delwedd o'r tai ar gyfer cerdyn pen-blwydd a gaiff ei gynhyrchu'r flwyddyn nesaf. Bydd yr holl waith celf yn cael ei arddangos drwy gydol 2009 fel rhan o'r dathliadau.

"Byddwn yn gofyn i ymwelwyr dynnu llun o'r tai i ni," medd Julie. "Gallant ddewis tynnu llun o'r tu allan i'r tai neu dynnu llun un o'r cwpanau te neu blatiau sydd yn y tai, neu hyd yn oed un o'r llefydd tân neu'r gwelyau ... unrhyw beth sy'n mynd â'u bryd.

 

"Bydd yr enillydd lwcus yn cael y fraint o weld ei lun yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cerdyn pen-blwydd i ddathlu'r tai yn ystod 2009. Byddwn yn chwilio am lun sy'n ymgorffori ysbryd a hynodrwydd yr hanes sy'n llechu ym muriau'r tai hyn. Rydym yn annog pobl o bob oed i gymryd rhan, gan ein bod yn chwilio nid yn gymaint am sgiliau technegol, ond am ddarlun ysbrydoledig!"

Bydd y gystadleuaeth yn agored drwy gydol y gaeaf, hyd ddiwedd Mawrth 2009, a bydd y cerdyn yn cael ei gynhyrchu yn barod ar gyfer Tymor yr Haf.

Cynhelir y gweithdai celf ar Hydref 27 a 28 o 11am tan 1pm ac o 2pm tan 4pm. Mae'r holl weithgareddau'n DDI-DÂL. Fe'ch cynghorir i drefnu ymlaen llaw gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Cysylltwch â'r Amgueddfa ar 01286 870630 i gael rhagor o wybodaeth.

Mae mynediad i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn ddi-dâl, diolch i nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Amgueddfa Cymru - National Museum Wales yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru sy'n gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol drwy Gymru, sef: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- DIWEDD -

I gael rhagor o wybodaeth i'r wasg neu ffotograffau, a fyddech cystal â chysylltu â Julie Williams ar 01286 873707 e-bost: julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk. Mae ffotograffau ar gael gan Amgueddfa Lechi Cymru.