Datganiadau i'r Wasg

BLOODHOUND: Lansiad Cymru

Dydd Sadwrn, 1 Tachwedd 2008
10.30am ymlaen

Ddydd Sadwrn 1 Tachwedd, bydd Prifysgol Abertawe yn dathlu ei chyfraniad at BLOODHOUND, yr antur beirianneg sy’n ennyn chwilfrydedd mawr ledled Prydain ac sy’n debyg o dorri pob record cyflymder tir. Bydd yn cynnal arddangosiad anhygoel yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, am un diwrnod yn unig.

O 10.30am ymlaen, bydd nodweddion y car uwchsonig yn cael eu harddangos a bydd aelodau’r tîm prosiect wrth law i sgwrsio amdanynt. Am 11.00am, bydd sioe, wedi’i chyflwyno gan y Cyfarwyddwr Prosiect, Richard Noble OBE, lle cewch gyfle i weld a chlywed popeth am dorri ar Record Cyflymder Tir y Byd a dal gafael ar y record honno.

Am ragor o wybodaeth, ebostiwch engineeringadventure@swansea.ac.uk neu ffoniwch (01792) 513705.