Datganiadau i'r Wasg

Hwyl a Helynt Calan Gaeaf!

Hwyl a helynt! 

Calan Gaeaf yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis

29 - 31 Hydref 2008

 Os ydych chi'n chwilio am weithgareddau Calan Gaeaf i gadw'r plant yn brysur yn ystod yr wythnos hanner tymor, yna Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yw'r lle i chi. Trefnwyd nifer o weithgareddau Calan Gaeaf rhwng Hydref 29 - 31 gan gynnwys Helfa Ystlumod o gwmpas y safle a chyfle i wneud crefftau iasoer i fynd adref yn y gweithdai crefft. Hefyd ar Hydref 30 bydd cyfle i glywed storiau ‘sbrydion yn y Tai Chwarelwyr gyda Mari Gwilym a cyfle i gwrdd â rhai o dylluanod Ymddiriedolaeth Adar Gogledd Cymru ar Hydref 31.

"Mae edrychiad syfrdanol adeilad yr amgueddfa yn wych ar gyfer gweithgareddau fel hyn ' meddai Julie Williams, Swyddog Marchnata'r safle. "Mae'r daith ystlum yn ffordd gwych i gael plant a theuluoedd yn gweithio gyda'u gilydd ac yn edrych mewn ystafelloedd nad ydynt efallai yn mynd iddyn nhw ar ymweliad arferol - ac yn cael hwyl wrth ei wneud.'

Cynhelir y gweithgareddau rhwng 12pm - 4pm bob diwrnod. Mae mynediad i Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd cost o £1 am fynychu'r gweithdai crefft. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Amgueddfa ar 01286 870630 neu anfonwch e-bost at llechi@amgueddfacymru.ac.uk

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Y Wasg Cysylltwch â Julie Williams ar 01286 873707 neu Julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk Mae ffotograffau ar gael os mae angen