Datganiadau i'r Wasg

Dathlwch Galan Gaeaf y Celtiaid

‘Samhain' yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Gellir olrhain gwreiddiau Calan Gaeaf, a nodir gan nifer ledled y wlad ar noson yr 31ain o Hydref drwy deithiau ysbryd, gwisgo lan a gemau, yn ôl i ?yl Geltaidd hynafol o'r enw Samhain, a gaiff ei ddathlu yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar ddiwrnod olaf y mis o 6 - 8 yr hwyr.

Yn wyliau paganaidd sy'n dyddio nôl i Geltiaid Oes yr Haearn, ystyriwyd Samhain yn Flwyddyn Newydd Celtaidd ac fe'i mabwysiadwyd gan y Rhufeiniaid fel eu g?yl eu hunain pan drechwyd Prydain.

"Mae nifer o elfennau o'r ?yl heddiw yn rhan o'n bartïon Calan Gaeaf," dywedodd Rebecca Smith, Swyddog Digwyddiadau yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. "Crëwyd llusernau o faip ac fe'u defnyddiwyd i arwain y meirw yn ôl i'r ddaear. Heddiw defnyddiwn bwmpenni. Cysylltir gwisgoedd â'r Celtiaid hefyd, ond defnyddiwyd croen anifeiliaid!"

Rhaid bwcio ar gyfer y digwyddiad, a gynhelir o 6 - 8 yr hwyr ar 31 Hydref 2008. Ffoniwch (01633) 423134 - pris tocynnau yw £2 i blant a £1 ar gyfer oedolion. Cynhelir cystadleuaeth gwisgo fyny gyda gwobr hefyd.

Cynigir mynediad am ddim i'r bob safle Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.