Datganiadau i'r Wasg

Arian mawr

Ceiniogau 1,700 o flynyddoedd oed a ffeindiwyd yng Nghymru yn drysor

Mae dau gelc, sydd, gyda'i gilydd yn creu un o'r casgliadau mwyaf o geiniogau Rhufeinig erioed i'w canfod yng Nghymru, wedi cael eu datgan yn drysor heddiw (30 Hydref 2008) gan Grwner ei Mawrhydi dros Gaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae'r ddau gelc - a ganfuwyd ger y Sili yn Ebrill 2008 - yn cynnwys 2,366 a 2,547 o geiniogau aloi-copr. Cawsant eu claddu mewn llestri crochenwaith rhyw dri metr oddi wrth ei gilydd. Mae'n debyg iddyn nhw gael eu claddu gan yr un person ac i'r naill gael ei gladdu ychydig flynyddoedd ar ôl y llall, tua 1,700 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd ceiniogau sawl ymerawdwr yn rhan o'r celc, gan gynnwys Constantine I (Constantine Mawr, 307-37OC). Yn ystod ei deyrnasiad ef y daeth Cristnogaeth yn grefydd gydnabyddedig y wladwriaeth

Meddai Edward Besly, arbenigydd ceiniogau'r Amgueddfa: "Dyma ganfyddiad hynod. Mae'r ceiniogau hyn yn rhoi mwy o dystiolaeth i ni am gyfoeth yr ardal yn y cyfnod hwn. Maent hefyd yn adlewyrchu gwleidyddiaeth imperialaidd gymhleth ddechrau'r bedwaredd ganrif."

Cafodd dwy fwyell efydd o Lancarfan, Bro Morgannwg eu datgan yn drysor hefyd. Darganfuwyd y rhain ym Mehefin 2008 ar ôl cael eu claddu gyda'i gilydd fel celc bychan. Mae addurn rhesog ar y ddwy fwyell socedog efydd cyflawn, maent yn enghreifftiau o fath De Cymru, ac fe'u dyddiwyd i'r Oes Efydd Diweddar (1000-800 CC).

Mae Amgueddfa Cymru yn bwriadu caffael y canfyddiadau i'w hastudio ac i'w harddangos i'r cyhoedd yn y dyfodol.

Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am wybodaeth bellach, lluniau neu gyfleoedd cyfweld, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3185/07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.