Datganiadau i'r Wasg

Tirlun gan Sisley'n dod i'r golwg

On the Cliff, Langland yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae tirlun pwysig Cymreig gan Alfred Sisley - yr arlunydd Argraffiadol - wedi cael ei ddarganfod ac ar ddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers y 1960au hwyr.

On the Cliff, Langland (Casgliad Preifat, d/o James Roundell) yw un o uchafbwyntiau Sisley yng Nghymru a Lloegr a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 7 Mawrth - 14 Mehefin 2009. Mae'r arddangosfa gelf yn dod â dwy ymgyrch Sisley ym Mhrydain - yn Lloegr yn 1874 a Chymru yn 1897 yngh?d am y tro cyntaf.

"Hyd y gwyddwn ni, nid yw On the Cliff, Langland wedi cael ei harddangos yn gyhoeddus ers y 1960au hwyr," dywedodd y Curadur Charlotte Tospfield. "Fe gawsom wybod am y gwaith gwych hwn pan gynhaliwyd yr arddangosfa yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain o fis Tachwedd 2008, a bûm yn ffodus iawn i gael cynnig y cyfle i'w rhannu gydag ymwelwyr i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r perchennog am ei fenthyciad hael.

"Mae'r gwaith yn dangos penrhyn ochr ddwyreiniol Lady's Cove (Bae Rotherslade erbyn heddiw) ac yn cynnwys ffigyrau'n mynd am dro ar hyd y llwybr troellog arfordirol - un o hoff nodweddion Sisley. Mae'n ddarn o waith celf drawiadol ac yn ychwanegiad gwych i'r arddangosfa."

Roedd y gwaith yn berchen i ferch Sisley, Jeanne ar un adeg ac yn cael ei harddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf yng Nghymru.

Cynigir mynediad am ddim i Sisley yng Nghymru a Lloegr a drefnwyd gan Amgueddfa Cymru a'r Oriel Genedlaethol yn Llundain, am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith o amgueddfeydd cenedlaethol ledled y wlad, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk