Datganiadau i'r Wasg

Disgyblion ysgol yn darganfod effeithiau newid yn yr hinsawdd

Gwobrwyir Ysgol Gynradd Penllwyn, Caerffili am ei ffordd archwiliadol o fynd ati

Cennin Pedr yn ymddangos cyn crocysau a blodau'n blodeuo tair wythnos yn gynt nag arfer yw rhai o'r ffeithiau a ddarganfuwyd gan 100 o ysgolion ar draws Gymru a gymerodd ran yn archwiliad Bylbiau'r Gwanwyn Amgueddfa Cymru eleni.

Mae 3,743 o ddisgyblion ledled y wlad wedi bod yn monitro effeithiau'r tymheredd ar fylbiau crocws a chennin Pedr ers Hydref 2008, gan gadw cofnodion tywydd a nodi pryd mae'r blodau'n agor fel rhan o'r astudiaeth hirdymor hon.

Dewiswyd Ysgol Gynradd Penllwyn o Gaerffili - un o'r ysgolion mwyaf ymroddedig i'r project i ymweld â Fferm Cennin Pedr Gwir Gymreig a Gwarchodfa Natur Cynffig fis diwethaf er mwyn cymharu nodiadau!

Cytunodd ffermwyr Gwir Gymreig bod eu daffodiliau wedi blodeuo'n hwyrach eleni, oherwydd y gaeaf oer si?r o fod a arafodd ddatblygiad y blodau. Dywedodd Rhiannon Williams:

"Yn union fel yr ysgolion, roedd ein cennin Pedr tua thair wythnos yn hwyr. Eleni fe geision ni hyrwyddo'r cennin Pedr ar gyfer dydd Santes Dwynwen a Dydd Sant Ffolant yn hytrach na'r rhosynnau arferol sy'n cael eu mewnforio i'r wlad. Ond yn anffodus, nid oedd ein blodau'n barod ar gyfer Dydd Santes Dwynwen oherwydd y tywydd oer."

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Penllwyn wedi mwynhau mesuro'r gwahaniaeth yn nhyfiant y bylbiau o wythnos i wythnos:

"Rydyn ni wedi dysgu cryn dipyn yngl?n â chynhesu byd eang - bod y byd yn cynhesu oherwydd llygredd." Emma Taylor

"Fe geisiais i berswadio fy nghefndryd i dyfu blodau - mae'r ddau ohonynt yn 5 mlwydd oed." Mair Gardner

"Mae lot mwy o hwyl dysgu y tu allan, dwi hefyd yn hoff o waith tîm. Byddai'n well gen i wneud ein gwaith i gyd tu allan. Y genhinen Bedr yw blodyn ein gwlad felly rydyn ni'n falch i wneud hyn." Astrid Hungerford

Mae'r athrawes Mrs Siân Wright hefyd yn cefnogi'r project i'r carn. Dywedodd:

"Mae'r plant wedi ymgymryd â'r project yma. Maent wedi bod allan bod dydd yn gofalu amdanynt â chariad, yn siarad â nhw fel mae'r Tywysog Siarl yn ei wneud! Roedden nhw'n dda iawn yn rhoi d?r iddyn nhw ac yn hapus i fentro allan ym mhob tywydd. Mae hefyd wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau newydd mewn rheoli data."  

Mae project Amgueddfa Cymru Bylbiau'r Gwanwyn yn annog plant i fabwysiadu eu bylbiau eu hunain i fesuro newid yn yr hinsawdd. Wedyn mae'r cymeriad ffuglen Athro'r Ardd yn helpu disgyblion i ddadansoddi'u darganfyddiadau ar-lein.

Danielle Cowell o adran addysg yr Amgueddfa a ddechreuodd y project.

"Roeddwn i wrth fy modd yn cwrdd â disgyblion Ysgol Gynradd Penllwyn," dywedodd Danielle. "Roedd hi'n amlwg y cawsant eu hysbrydoli wrth dyfu'u bylbiau hunain a chadw eu cofnodion gwyddonol i'r amgueddfa. Dangoson nhw ymwybyddiaeth dda o gynhesu byd eang, ac roedd ganddynt barch tuag at natur o'u cwmpas ac yn bwysicach barch tuag at eu hunain a'r gwaith a gyflawnwyd. Dwi'n gwybod fod hyn yn wir ar gyfer y 100 ysgol a gymerodd ran eleni a hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd!"

Hoffai'r Amgueddfa ddiolch i Gwmni Masnachu Gwir Gymreig am eu cefnogaeth eleni gan ddarparu bylbiau cennin Pedr, tystysgrifau a thaith wych i gasglu cennin Pedr! Ac mae angen cefnogaeth bellach er mwyn i'r project barhau a datblygu. Os oes diddordeb gennych neu fod eich ysgol am gymryd rhan, cysylltwch â ni: danielle.cowell@amgueddfacymru.ac.uk.

Cynigir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith o amgueddfeydd cenedlaethol ledled y wlad, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.