Datganiadau i'r Wasg

Dim ffasiwn beth â chymdeithas

Arddangosfa newydd ar ffotograffiaeth o 1967 - 1987 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae gwaith Diane Arbus wedi denu nifer o ymwelwyr newydd a phresennol i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod ei dau fis cyntaf. Yn parhau â'r thema ffotograffiaeth, enwau fel Keith Arnatt, Daniel Meadows, Peter Fraser, Phillip Jones Griffiths a Martin Parr fydd yn cael sylw yn yr Amgueddfa Genedlaethol gydag agoriad Dim ffasiwn beth â chymdeithas o'r Cyngor Prydeinig a chasgliadau Cyngor y Celfyddydau, sydd ar daith diolch i Hayward Touring.

"...cymdeithas? Does dim ffasiwn beth. Mae yna ddynion a menywod unigol ac mae yna deuluoedd." Daw enw'r arddangosfa sydd ar agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf - 4 Hydref 2009, o'r datganiad enwog hwn gan Margaret Thatcher a roddodd i gylchgrawn Women's Own yn 1987.

Roedd cymdeithas ym Mhrydain yn mynd trwy gyfnod o aflonyddwch a newid o'r 1960au hwyr hyd at ddiwedd yr 1980au. Dyma gyfnod a brofodd effeithiau dad-ddiwydiannu a thwf Thatcheriaeth, streiciau'r glowyr a gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon, yn ogystal â newidiadau radical i strwythur y gymdeithas ei hun. Mae Dim ffasiwn beth â chymdeithas yn dyst i'r amseroedd hyn.

Mae'r sioe'n cynnwys 100 o weithiau gan 33 ffotograffydd dogfennol. Yn eu plith mae portread Ron McCormick o Ddociau Casnewydd ym 1977, gwaith gan y ffoto-ohebydd Philip Jones Griffiths a lluniau gan Keith Arnatt o Dyndyrn oedd yn ffigwr ryngwladol adnabyddus. Mae'r cysylltiadau Cymreig hyn yn adlewyrchu effaith y sîn ffotograffiaeth yng Nghymru bryd hynny, ar artistiaid ar draws y wlad.

"Roedd Cymru'n rhan bwysig yn natblygiad ffotograffiaeth ym Mhrydain," dywedodd David Alan Mellor, Athro mewn Hanes Celf ym Mhrifysgol Sussex a guradodd Dim ffasiwn beth â chymdeithas. "Roedd Ffotogallery yng Nghaerdydd ar flaen y gad wrth gomisiynau ffotograffwyr."

Mae'r arddangosfa, sydd hefyd yn cynnwys gweithiau gan Victor Burgin, Peter Fraser, Paul Graham, Brian Griffin a Chris Killip, yn dechrau ar ddiwedd y 1960au - cyfnod pan oedd celfyddyd bop wedi sicrhau lle ffotograffiaeth mewn diwylliant modern. Yr adeg hon, dechreuodd Cyngor Celfyddydau'r Deyrnas Unedig gomisiynu a chasglu ffotograffiaeth ddogfennol a gofnodai'r cyfnodau newidiol hyn. Parhaodd y Cyngor Prydeinig y duedd hon yn yr 1980au cynnar, drwy gasglu ffotograffiaeth lliw newydd o gymdeithas unigryw'r ddegawd.

Mae'r sioe wedi'i rhannu'n gronolegol yn chwe thema sy'n adlewyrchu agweddau gwrthgyferbyniol y gymdeithas ar y pryd. Mae Carnifal Cymdeithasol (1967-75) yn dangos Prydeinwyr o bob dosbarth cymdeithasol yn chwarae, mewn cystadlaethau harddwch glan môr, dawnsfeydd Calan Mai, ac yn y rasys yn Ascot. Cofnod o'r gwahaniaethau mewn cymdeithas yn y 1970au yw Portread a Lle (1973-77) - o weithwyr diwydiannol i gynrychiolwyr diwylliant pobl ifanc. Mae Ethnigrwydd, Cymuned a Stryd (1972-80) yn archwilio ymdeimlad y genedl o berthyn yn ystod y cyfnod hwn, ac yn cofnodi tensiynau hil drwy graffiti hiliol y Ffrynt Cenedlaethol ac mewn cyferbyniad, darlun o fatriarch Asiaidd yn ei chartref ym Mirmingham.

Ychwanegodd Beth McIntyre, Curadur, Amgueddfa Cymru: "Rydyn ni'n falch iawn o'r cyfle i arddangos gweithiau gan artistiaid mor ddylanwadol, nifer ohonynt â chysylltiadau agos gyda Chymru. Daeth Martin Parr a Daniel Meadows, sydd heddiw'n ffigyrau adnabyddus mewn addysg uwch yng Nghymru, i'r amlwg yn ystod esgyniad ffotograffiaeth celf annibynnol ym Mhrydain yn ystod yr 1970au. Mae'r arddangosfa'n tanlinellu rhan Cymru yn hanes y gelfyddyd a hefyd ei argraff ar ffotograffiaeth heddiw."

Dim ffasiwn beth â chymdeithas yw'r cywaith cyntaf rhwng y Cyngor Prydeinig a chasgliadau Cyngor y Celfyddydau.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y chwech arall yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae mynediad am ddim i'r arddangosfa a'r Amgueddfa diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn ychwanegol, mae Diane Arbus - rhan o daith ARTIST ROOMS - ar agor tan 31 Awst 2009.

Diwedd

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bost catrin.mears@museumwales.ac.uk.

Lluniau atodedig:

• Daniel Meadows: Portsmouth: John Payne, oed 12, gyda dau ffrind a'i golomen, Chequer, 26 Ebrill 1974. Casgliad Cyngor y Celfyddydau, Southbank Centre © Daniel Meadows 1974

• Ron McCormick Dociau Casnewydd, 1977. Casgliad Cyngor y Celfyddydau, Southbank Centre. Hawlfraint yr artist, 2007

Nodiadau i'r golygydd:

• Artistiaid yr arddangosfa: Keith Arnatt, John Benton-Harris, Ian Berry, Derek Boshier, Victor Burgin, Vanley Burke, David Butterworth, Ian Dobbie, Tarik Chawdry, David Chadwick, John Davies, Peter Fraser, Paul Graham, Brian Griffin, Alexis Hunter, Philip Jones-Griffiths, Chris Killip, Bob Long, Markéta Luska?ová, Peter Marlow, Ron McCormick, Daniel Meadows, Peter Mitchell, Tish Murtha, Martin Parr, Gilles Peress, Tony Ray-Jones, Jergen Schadeberg, Graham Smith, Chris Steele-Perkins, Paul Trevor, Homer Sykes a Christine Voge.

• Mae Dim ffasiwn beth a chymdeithas yn gywaith ar y cyd rhwng y Cyngor Prydeinig a chasgliad Cyngor y Celfyddydau. Mae ar daith gan Hayward Touring.

• Casgliad Cyngor y Celfyddydau yw'r casgliad benthyg cenedlaethol mwyaf o gelf Brydeinig fodern a chyfoes. Gyda dros 7,500 o weithiau, gellir ei weld mewn arddangosfeydd cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig a thramor. Ceir rhagor o wybodaeth ar www.artscouncilcollection.org.uk.

• Ers dros 60 mlynedd, mae'r Cyngor Prydeinig wedi bod yn casglu gweithiau celf, crefft a dylunio i hyrwyddo llwyddiannau'n artistiaid, crefftwyr a dylunwyr dramor. Mae'r casgliad, a ddechreuwyd yn y 1930au hwyr gyda grwp cymhedrol o weithiau ar bapur, bellach wedi tyfu'n gasgliad o dros 8,000 o weithiau sy'n cynnwys pob cyfrwng a phob agwedd o gelf a chynllunio Prydeinig yr 20fed a'r 21ain ganrif.

• Ers dros 35 o flynyddoedd, mae The Hayward wedi chwarae rôl allweddol wrth greu arddangosfeydd blaengar a dyfeisgar yn Llundain ac o fewn y Deyrnas Unedig drwy Hayward Touring. Mae'r rhaglen deithiol a Chasgliad Cyngor y Celfyddydau yn cael eu rheoli gan The Hayward ar ran Cyngor Celfyddydau Lloegr, ac yn ychwanegu at gylch gwaith cenedlaethol unigryw Hayward.

• Mae The Hayward yn rhan gyfansoddol o'r Southbank Centre sy'n rheoli Royal Festival Hall, The Hayward, Queen Elizabeth Hall a Purcell Room, yn ogystal â Saison Poetry Library, Casgliad Cyngor y Celfyddydau ac Arddangosfeydd Hayward Touring ar ran Cyngor Celfyddydau Lloegr. Mae'n denu dros 3 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn. Ail-agorwyd Royal Festival Hall ym Mehefin 2007 yn dilyn y gwaith sylweddol o ailddatblygu'r Neuadd a'r ardal a'r adnoddau o'i hamgylch.

Mae'r daith yn parhau: Ceir rhagor o wybodaeth am leoliadau eraill yr arddangosfa hon ar: www.southbankcentre.co.uk/visual-arts/hayward-touring/current.

Ymholiadau cyhoeddus yngl?n ag arddangosfeydd Hayward Touring: 020 7921 0837