Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n ennill gwobr yr adeilad mwyaf chwaethus

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n falch o gyhoeddi mai hi, yn swyddogol, yw'r adeilad mwyaf chwaethus yn Abertawe.

Dyfarnwyd y wobr yr wythnos diwethaf, (dydd Iau 2 Gorffennaf), yng Ngwobrau Steil Abertawe 2009, ac enillodd yr Amgueddfa'r wobr categori'r adeilad mwyaf chwaethus, gan guro adeiladau eraill fel LC a Gwesty Morgans.

Wedi'i drefnu gan Sain Abertawe a The Wave, roedd y digwyddiad gwobrwyo'n gyfle i arddangos celfyddydau, hamdden, adloniant, diwylliant a phensaernïaeth gorau Abertawe.

"Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill y wobr hon, felly diolch yn fawr i bawb a bleidleisiodd," meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. "Mae ein pedwerydd pen-blwydd yn brysur agosáu, ac mae ennill gwobr yn sgil pleidleisiau'r cyhoedd yn arwydd ein bod ni, fel yr ychwanegiad diweddaraf i dreftadaeth ddiwylliannol Abertawe, yn parhau i fynd o nerth i nerth."

Cynhaliwyd y seremoni yr wythnos ddiwethaf (dydd Iau 2 Gorffennaf) yng nghlwb nos Oceana, Abertawe.

DIWEDD

Cyswllt y wasg: Marie Szymonski ar 01792 638970 neu e-bost: marie.szymonski@amgueddfacymru.ac.uk