Datganiadau i'r Wasg

Gweithdai heulol yn cyrraedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Gwahoddir pobl ifainc 11-19 oed i ddigwyddiad newydd mewn sinema heulol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn ystod yr wythnos nesaf (10-14 Awst).

Crëwyd y sinema heulol symudol unigryw hon gan Undercurrents gyda chymorth yr artist lleol Jo Furlong. Dangosir detholion o'r rhaglen ddogfen Arweiniad syrffwyr i'r newid yn yr hinsawdd.

Bydd Undercurrents yn dangos ffilmiau a chynnal gweithdai am ddim fydd yn dysgu sgiliau cyfryngol megis gwaith camera, recordio sain a chyfweld. Bydd gan gyfranogwyr y cyfle i ofyn cwestiynau i bobl leol mewn sefyllfa stiwdio fyw am sut i gyrraedd Cymru gynaladwy.

Noddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru'r cymundod gwneud ffilmiau hwn o Abertawe i gynnal gweithdai yn unol â'i pholisi newydd sy'n galw am i Gymru fod yn Genedl un blaned. Ar ôl digwyddiad llwyddiannus ar gyfer 400 o bobl ifainc yn Stadiwm Liberty ym mis Gorffennaf mae Undercurrents yn cynllunio cyfres o weithdai i bobl ifainc dros Gymru gyfan.

Meddai arweinydd y gweithdy Anne Gallagher: 'Mae gwneud ffilmiau'n hwyl. Rydych yn cwrdd â phobl newydd a magu hyder. Hefyd mae Undercurrents yn ychwanegu ystyr at y profiad drwy ddefnyddio'r cyfryngau i drafod sut gallem fyw mewn ffordd gynaladwy.'

Cynigiodd Asiantaeth Ffilm Cymru gefnogaeth ariannol i'r fenter. Meddai Pauline Burt y Cyfarwyddwr Gweithredol: 'Rydym bob amser yn falch i allu cynnig cefnogaeth i brojectau arddangos blaengar sy'n denu diddordeb mewn ffilm a llythrennedd ffilm a chreu brwdfrydedd yn y meysydd hyn. Mae'r sinema heulol yn ddigon o ryfeddod ynddo ei hun ac yn ffordd hynod addas i osod pwnc trafod y gynulleidfa yn ei gyd-destun.'

Bydd y gyfres o weithdai yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn digwydd yn ystod yr wythnos 10-14 Awst 10am-12 ac 1-3pm.

Rhaid bwcio am fod nifer y llefydd yn gyfyng. Croeso i grwpiau.

I archebu lle ffoniwch (01792) 638950.

Cyswllt y wasg: Marie Szymonski ar 01792 638970 neu e-bost: marie.szymonski@amgueddfacymru.ac.uk