Datganiadau i'r Wasg

Ystyriol o deuluoedd yn yr ystyr orau

Mae bod yn ystyriol o deuluoedd yn flaenoriaeth uchel ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac mae enwebiad ar gyfer gwobr genedlaethol yn cadarnhau hynny.

Am yr ail dro'n olynol yr Amgueddfa yw'r unig enwebiad yng Nghymru a aeth ymlaen i ennill lle ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Ystyriol o Deuluoedd y Guardian yn 2009.

O'r cannoedd a'r cannoedd o enwebiadau teuluol a dderbyniwyd mae tîm Kids in Museums sy'n trefnu'r wobr wedi lleihau'r enwebiadau i restr hir o ugain.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ymuno ag Amgueddfa'r Fferm Deinosoriaid ar Ynys Wyth, Amgueddfa'r Byd yn Lerpwl ac Amgueddfa Rheilffyrdd Cenedlaethol yng Nghaerefrog sydd hefyd wedi'u henwebu.

Meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris, am y wobr: "Rydym wrth ein boddau i gyrraedd y rhestr hir eto. Mae'r staff yma'n gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau i'r teulu cyfan drwy'r flwyddyn."

Meddai Dea Birkett, Cyfarwyddwr Kids in Museums: "Wynebodd yr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gystadleuaeth galed iawn i gyrraedd rhestr hir ar gyfer y wobr eleni. Roedd nifer yr enwebiadau o safon uchel wedi cynyddu. Roedd gwaith arloesol, llawn dychymyg yr Amgueddfa a'u hymrwymiad i wneud teuluoedd yn flaenoriaeth yn disgleirio. Roedd eu hystod eang o weithgareddau ar gyfer pobl ifainc a phlant o bob oed wedi gwneud argraff ddofn arnom."

Mae'r Wobr Ystyriol o Deuluoedd y Guardian erbyn hyn ymhlith y gwobrwyon amgueddfaol mwyaf poblogaidd ym Mhrydain a'r unig wobr i'w beirniadu gan deuluoedd.

Cyflwynir y rhestr hir o ugain i banel o feirniaid dan gadeiryddiaeth Jenny Abramsky, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Ar ôl i'r panel dynnu rhestr fer bydd teuluoedd yn ymweld â'r amgueddfeydd i'w profi'n anhysbys. Y teuluoedd hyn fydd yn dewis yr enillydd.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth am y gwobrwyon a'r rhestr hir ewch i www.kidsinmuseums.org.uk

Am fwy o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau cysylltwch â Marie Szymonski ar (01792) 638970.

Mae mynediad i saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.