Datganiadau i'r Wasg

Penwythnos o ddreigiau, dawnsio a chennin Pedr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ddydd Sul (28 Chwefror rhwng 12pm a 4pm), bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dathlu Dydd G?yl Dewi gyda chymysgedd o ddawnsio, cerddoriaeth a gweithgareddau difyr i’r teulu cyfan.

Dewch yn eich dillad Cymreig coethaf i fwynhau detholiad o gelf a chrefftau’r gwanwyn, yn cynnwys creu blwch bygiau, plannu hadau blodau’r haul, a chreu eich Broes Cymreig eich hun o ffelt. Bydd cyfle hefyd i weld technegau cerfio Llwyau Caru traddodiadol gyda Bob Ferris, cerfiwr llwyau caru o Bort Talbot.

Dawnsio a chanu fydd ar y gweill yn y Twmpath Cymreig yng nghwmni’r band Pluck and Squeeze (a welwyd ar raglen Gavin & Stacey) a bydd aelodau o’r Kite Theatre yn cyflwyno drama arbennig o’r enw Y Genhinen Enfawr.

Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan yng ngorymdaith y dreigiau. Yng nghwmni Arglwydd y Dreigiau, bydd y ddraig goch ag aur yn difyrru plant, pobl ifanc ac oedolion wrth iddo blethu ei ffordd o amgylch yr Amgueddfa.

“Rydym wrth ein bodd gyda’r amrywiaeth o weithgareddau sydd gennym i ddathlu Dydd G?yl Dewi eleni”, meddai’r Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry. “Bydd yn gyfle i’r teulu cyfan fwynhau adloniant Cymreig am ddim - boed hynny am hanner awr, neu brynhawn cyfan!”

Mae’r digwyddiad yn yr Amgueddfa hefyd yn cefnogi dathliadau Wythnos G?yl Dewi, Dinas a Thref Abertawe - yr unig ddathliadau G?yl Ddewi sy’n para wythnos gyfan –rhwng 22 Chwefror a 1 Mawrth 2010. Am fwy o fanylion ewch i www.saintdavidsday.com

Nodiadau i’r golygydd

Cynhelir y digwyddiad yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddydd Sul 28 Chwefror rhwng 12pm a 4pm.

Cyfle i dynnu lluniau: Gwahoddir aelodau o’r wasg am gyfle i dynnu lluniau: cysylltwch â Marie Szymonski am fwy o fanylion.