Datganiadau i'r Wasg

Côr o America i ganu caneuon Cymraeg yn Amgueddfa Lechi Cymru

Bydd côr coleg o UDA yn perfformio yn Amgueddfa Lechi Cymru y dydd Gwener hwn (12fed Mawrth 2010)

Mae Côr Green Mountain o Poultney, Vermont, UDA, yn canu emynau a chaneuon gwerin Cymraeg yn rheolaidd i gymunedau Cymreig ar draws yr Unol Daleithiau, ac maent hefyd yn ymweld â Chymru bob pedair blynedd.  Fel rhan o’u taith drwy ogledd Cymru, bydd y côr yn cael taith dywys arbennig drwy Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ar y 12fed o Fawrth a byddant yn rhoi perfformiad amser cinio yno.

Ymsefydlodd nifer fawr o ymfudwyr o Gymru yn Poultney a’r ardal o gwmpas ar droad y ganrif ddiwethaf, ar ôl cael eu denu gan y diwydiant llechi lleol, gan greu un o’r cymunedau Americanaidd-Gymreig cryfaf yn y wlad. Mae Rhaglen Treftadaeth Gymreig Coleg Green Mountain yn ceisio cynnal a meithrin yr etifeddiaeth ddiwylliannol honno.  Mae Llyfrgell Griswold yn y coleg yn cynnwys casgliad arbennig sy’n ymwneud â Chymru a diwylliant Cymru a bydd y Coleg yn cynnal G?yl Gymreig bob mis Hydref a bydd hefyd yn cynnig rhaglen gyfnewid gyda’i chwaer goleg Prifysgol Aberystwyth.

 “Mae’n bleser mawr gennym groesawu Côr Coleg Green Mountain i Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis,” meddai Dr Dafydd Roberts, y Ceidwad. “Gan fod cynifer o chwarelwyr o Gymru wedi ymfudo i’r rhan hon o UDA, rydym wedi creu cysylltiadau â’r ardal ers peth amser, ac mae’r amgueddfa lechi wedi gefeillio gydag Amgueddfa Slate Valley yn Granville yn Nhalaith Efrog Newydd ers rhai blynyddoedd.  Bydd yr ymweliad hwn yn atgyfnerthu’r berthynas hon ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eu clywed yn canu’r caneuon Cymraeg.”

 Bydd y côr, sy’n cynnwys 44 o aelodau, yn cynnal chwe chyngerdd yn ystod eu taith drwy ogledd Cymru o’r 8fed o Fawrth hyd y 13eg o Fawrth. Bydd yr uchafbwyntiau cerddorol yn cynnwys gweithiau a oedd yn boblogaidd yn y gwyliau cerddorol Americanaidd-Gymreig yn ystod y 19eg ganrif, a bydd y côr yn canu emynau adnabyddus megis

“Mae D'Eisiau” a “Calon Lân” – cafodd Calon Lân ei mabwysiadu fel anthem y Coleg , “This Green Place”.

 Eglurodd James Cassarino, y cyfarwyddwr cerdd a’r athro cerdd cyswllt:

"Mae gennym repertoire sefydlog o gerddoriaeth Gymreig. Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael cymaint o gyfeillion y mae eu disgynyddion yn dod o Gymru yma yn ardal Poultney i’n helpu i ynganu’r geiriau, heb sôn am ein cyfeillion o Gymru, ond hwn fydd y prawf mwyaf oll – canu caneuon Cymreig traddodiadol o flaen cynulleidfaoedd yng Nghymru.”

                                                                        - DIWEDD -

Mae mynediad i safleoedd Amgueddfa Cymru yn ddi-dâl, diolch i nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol drwy Gymru, sef: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon;  Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 Am ragor o wybodaeth i’r wasg a ffotograffau, a fyddech cystal â chysylltu â

Julie Williams ar 01286 873707 e-bost: julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk.  neu

Kevin Coburn, Cyfarwyddwr Cyfathrebiadau Coleg Green Mountain, coburnk@greenmtn.edu