Datganiadau i'r Wasg

Beth sy'n digwydd i'r hinsawdd?

Arddangosfa newydd ar yr hinsawdd

Amgueddfa Lechi Cymru : 5 Mawrth 2010 -  6 Mehefin  2010

Ni sy’n newid y blaned! Newid yn yr hinsawdd yw’r prif fygythiad i fywyd ar ein planed!

Dyma’r prif thema o arddangosfa newydd yn son am newidiadau yn yr hinsawdd sydd wedi agor yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yr wythnos hon.

 Mae’r arddangosfa  - sioe deithiol sydd wedi ei pharatoi ar y cyd rhnwg Amgueddfa Cymru  a Siopau Gwyddoniaeth Cymru -  yn anelu i hyrwyddo gwell ddealltwriaeth am newidiadau yn yr hinsawdd –gan annog pobol i ddysgu mwy am y rhesymau am y newidiadau er mwyn eu hosgoi yn y dyfodol.

 Meddai Julie Williams o’r amgueddfa:

 “Nid oes gan brif wyddonwyr y byd unrhyw amheuaeth bod gweithgarwch dynol yn newid ein hinsawdd. Yn ôl y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd mae’r dystiolaeth yn ‘ddiamwys’ mai gweithgarwch dynol sy’n gyfrifol am y cynhesu sydd wedi digwydd ers dechrau’r oes ddiwydiannol ond beth yw’r goblygiadau i Gymru, y Byd a chenedlaethau’r dyfodol.

 “ Mae’r arddangosfa yn ceisio ymateb i’r cwestiynau rydym i gyd yn ofyn. Cwestiynau fel sut ydyn ni’n gwybod mai gweithgarwch dynol sy’n gyfrifol? Oni fydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud bywyd yn fwy cyfforddus ac yn fwy heulog ym Mhrydain? Ydy hi’n rhy hwyr i newid? Does dim pwynt i fi wneud dim nag oes? Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth ond y cam cyntaf yw deall newid yn yr hinsawdd.”

 Mae’r arddangosfa ymlaen tan 6ed Mehefin ac mae mynediad am ddim. Gallwch gael mwy o wybodaeth oddi ar y wee www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/scan neu os oes gennych gwestiynau eraill yr hoffech eu holi ebostiwch scan@amgueddfacymru.ac.uk

 

-          DIWEDD –

 

Am ragor o wybodaeth i’r wasg a ffotograffau, a fyddech cystal â chysylltu â Julie Williams ar 01286 873707 e-bost: julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk.  Gellir cael ffotograffau gan Amgueddfa Lechi Cymru.

 

Mae mynediad i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn ddi-dâl, diolch i nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Amgueddfa Cymru – National Museum Wales yw enw newydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru sy’n gyfrifol am saith amgueddfa drwy Gymru, sef: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon;  Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.