Datganiadau i'r Wasg

Pobl ifanc o'r de yn darogan y dyfodol

Arddangosfa newydd ‘Anifeiliaid y Dyfodol’ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut olwg fydd ar anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm mewn mil o flynyddoedd? A fydd effeithiau newid hinsawdd a’r cynydd ym mhoblogaeth y byd yn creu’r angen am anifeiliaid anwes llai, glanach, a mwy cludadwy? Beth am ficro-gi maint ffôn symudol, neu a fyddech chi’n bridio crwban ysgafn i redeg yn chwim? Mae arddangosfa Anifeiliaid y Dyfodol yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn. Agorwyd yr arddangosfa’n swyddogol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddoe (23 Mawrth 2010).

Mae’r arddangosfa hon, sydd yn rhad ac am ddim, yn cynnwys popeth o ddafad â sip i goala ceidwad, ac o sgitls pengwin i neidr chwarae - oll wedi’u darlunio’n ddychmygus gan ddisgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Ysgol Uwchradd Gatholig Sain Alban, Pont-y-p?l, a choleg hyfforddi ITEC Caerdydd. Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr gynllunio’u hanifeiliaid y dyfodol eu hunain i’w gosod ar y wal i bawb eu gweld!

Ffrwyth tri gweithdy diwrnod a gynhaliwyd yn Rhagfyr 2009 yw’r arddangosfa. Anogwyd y myfyrwyr a gymerodd ran i feddwl am anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm y dyfodol. Roedd tîm o archeolegwyr, swyddog addysg, gwyddonydd genetig ac artist arobryn wrth law i ddehongli’r creadigaethau ac i gynnig gwybodaeth a chyngor defnyddiol.

Meddai’r artist Paul Evans:

“Yn ogystal â chael hwyl greadigol, cynlluniwyd y gweithdai i gynnwys dimensiwn moesegol. Gofynnwyd i’r bobl ifanc a gymerodd ran yn y gweithdai i ystyried rhinweddau a pheryglon y syniadau. A oes gennym yr hawl i newid y ffordd mae anifeiliaid yn edrych ac yn ymddwyn dim ond i greu anifeiliaid anwes annwyl neu ffynhonnell fwyd dof?”

Gellir gweld ffilm fer sy’n cofnodi meddyliau a theimladau’r myfyrwyr yn un o orielau’r arddangosfa.

Mae Anifeiliaid y Dyfodol yn broject creadigol a ariannwyd gan Oleufa Cymru ac mae’n ffrwyth project ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd, yr artist Paul Evans a Techniquest. Mae’r tîm yn cynnwys Dr Jacqui Mulville o Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caerdydd, Yr Athro Mike Bruford o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, Tina Crimp, Rheolwr Llysgenhadon STEM Techniquest, a nifer o fyfyrwyr ôl-radd o Brifysgol Caerdydd yn ogystal a Ciara Charnley, Swyddog Addysg y Gwyddorau Naturiol, Amgueddfa Cymru. Meddai:

“Mae’n fraint cael arddangos gwaith caled y myfyrwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fe’u hysbrydolwyd gan Paul - yr artist, a gweddill y tîm, ac mae hyn yn amlwg yn eu gwaith. Mae’r arddangosfa’n dangos bod gan bobl ifanc y de feddyliau creadigol iawn!”

Ychwanegodd Jacqui Mulville, sy’n arbenigo mewn archaeoleg anifeiliaid:

“Roedd hyn yn gyfle i gael trafodaeth fyw, boddhaol am rôl dynoliaeth yn y broses o ‘ddylunio’ anifeiliaid yn y gorffennol hyd heddiw trwy ddefnyddio gwybodaeth arbenigol am archaeoleg, hanes a geneteg c?n. Ymatebodd y myfyrwyr yn rhagorol i’r her o fynd ati i gynllunio anifeiliaid y dyfodol eu hunain, ac roedd yn ddifyr gweld dylanwad archaeoleg a geneteg ar weledigaethau anhygoel y myfyrwyr o’r dyfodol.”

Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen blog y project: www.futureanimals.wordpress.com neu cysylltwch â Ciara Charnley, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3123.

Mae mynediad i’r arddangosfa am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled y wlad, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, lluniau neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185 / 07920 027067 neu catrin.mears@museumwales.ac.uk.