Datganiadau i'r Wasg

Bwydydd y Dyfodol: beth yw eich barn am Addasu Genetig?

Addasu Genetig - syniad da neu ffolineb llwyr?

Os ydych angen help i benderfynu, dewch i’r arddangosfa newydd sbon hon yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

 

Mae arddangosfa Bwydydd y Dyfodol – arddangosfa sy’n trafod addasu genetig, sydd ar fenthyg o’r Amgueddfa Wyddoniaeth, Llundain, yn cymryd cipolwg ar yr argyfwng bwyd byd-eang a’r drafodaeth ynghylch cnydau wedi’u haddasu’n enetig (AG).

Mae Bwydydd y Dyfodol, a leolir mewn gofod arddangos arbennig, yn archwilio i dechnoleg AG a’r dewisiadau eraill. Mae’n gofyn i ymwelwyr am eu barn ar y mater, gan gyflwyno’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.

Yng nghyd-destun yr argyfwng bwyd byd-eang, bydd yr arddangosfa’n cynnig esboniad o beth yw addasu genetig, ac yn archwilio sut y gallwn ni ail-ddyfeisio dulliau amaethyddol o’r newydd. Mae hefyd yn edrych ar y ffordd y gallai cnydau GM helpu i ddatrys yr argyfwng bwyd byd-eang.

Meddai Andrew Deathe, Awdur Oriel yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: “Rydym yn hapus iawn i gael cynnal yr arddangosfa ryngweithiol hon. Mae addasu genetig yn bwnc dadleuol, ac mae llawer o safbwyntiau cryf am y peryglon a’r buddiannau ar y ddwy ochr. Mae’r arddangosfa’n edrych ar y dewisiadau AG a di-AG diweddaraf i gynyddu effeithlonrwydd cnydau, ac yn cyflwyno’r dadleuon diweddaraf ynghylch AG, fel bod modd i ymwelwyr benderfynu drostynt eu hunain, ac ymuno yn y drafodaeth.”

Fel rhan o raglen digwyddiadau’r Amgueddfa, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i gynllunio eu bwyd eu hunain ar gyfer y dyfodol. Cynhelir y gweithdai galw heibio gydol gwyliau’r Pasg (6-18 Ebrill, 11am-1pm a 2-4pm) a byddant yn gyfle i ddysgu am oblygiadau gwahanol amodau i’r broses o dyfu bwyd.

Hefyd, ddydd Sul 2 Mai, gall ymwelwyr ymuno â’r Athro Dennis Murphy, ymgynghorydd i Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig i drafod materion pwysig am fwyd AG. Bydd y sgwrs hon, sy’n ddelfrydol ar gyfer oedolion a phobl ifanc, yn dechrau am 2.30pm.

Noddir Bwydydd y Dyfodol - arddangosfa sy’n trafod addasu genetig, gan y Gr?p Cynghori ar Ymchwil Amaethyddol Ryngwladol (CGIAR) a bydd ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tan dydd Mawrth 1 Mehefin 2010.

Nodiadau i’r golygydd

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638950 neu anfonwch e-bost at: marie.szymonski@amgueddfacymru.ac.uk

Mae mynediad i amgueddfeydd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru.

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

CGIAR ac Addasu Genetig

Mae’r Gr?p Cynghori ar Ymchwil Amaethyddol Ryngwladol, a sefydlwyd ym 1971, yn bartneriaeth strategol o wledydd, sefydliadau rhyngwladol a rhanbarthol, a sefydliadau preifat sy’n cefnogi gwaith 15 o ganolfannau ymchwil amaethyddol ryngwladol. Ar y cyd â systemau ymchwil amaethyddol cenedlaethol, y gymdeithas sifil a’r sector breifat, mae CGIAR yn meithrin twf amaethyddol cynaliadwy trwy wyddoniaeth o’r safon uchaf gyda’r nod o gynorthwyo pobl dlawd drwy hybu diogelwch bwyd, maeth ac iechyd, cyflogau uwch a gwell rheolaeth o adnoddau naturiol.

Mae ymchwilwyr CGIAR, wrth geisio canfod atebion i’r argyfwng bwyd byd-eang, yn ehangu eu defnydd o fiodechnoleg i wella cnydau, gyda llawer o bwyslais ar fridio moleciwlaidd a llai ar ddatblygu cnydau AG. Mae CGIAR yn cefnogi taith Bwydydd y Dyfodol o amgylch y DU er mwyn rhoi llwyfan i drafodaeth gyhoeddus wedi’i seilio ar wyddoniaeth am rôl technolegau o’r fath wrth gwrdd â sialensiau amaethyddol y dyfodol. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.cgiar.org

Yr Amgueddfa Wyddoniaeth

Yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain yw unig ddyluniwr a chreawdwr yr arddangosfa Bwydydd y Dyfodol - arddangosfa sy’n trafod addasu genetig. Am fwy o fanylion, ewch i www.sciencemuseum.org.uk