Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar restr fer Lleoliadau Rhad ac Am Ddim Gorau yng Ngwobrau cyntaf Rough Guide to Accessible Bri

Yn ddiweddar derbyniodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe Ganmoliaeth Uchel yng Ngwobrau cenedlaethol Rough Guide to Accessible Britain, fel un o’r atyniadau hygyrch gorau yn y DU, yng nghategori Lleoliad Rhad ac Am Ddim Gorau.

Mae cyrraedd y rhestr fer Canmoliaeth Uchel yn golygu fod yr Amgueddfa yn un o lond dwrn o atyniadau ymwelwyr yn y DU sydd wedi gwneud ymdrech arbennig iawn i ddarparu diwrnodau allan sy’n hygyrch, ysgogol a chynhwysol.

Canmolodd y beirniaid yr Amgueddfa am ei gofod a’i hawyrgylch gan ddweud fod popeth fel y dylai fod mewn amgueddfa fodern. Cymeradwywyd yr Amgueddfa am ddarparu hanes Cymru yn gyfan. Hefyd roedd y beirniaid wrth eu bodd fod ymwelwyr yn cael eu hannog i ymuno i mewn ac i ryngweithio gyda’r arddangosfeydd, a bod y profiad llawn yn ysgogol tu hwnt.

Ymysg yr atyniadau eraill sydd hefyd yn cael canmoliaeth uchel yn y categori Lleoliad Rhad ac Am Ddim Gorau mae’r Oriel Genedlaethol, Llundain; ac Amgueddfa a Gerddi Horniman, Llundain. Enillydd categori Lleoliad Rhad ac Am Ddim Gorau Gwobrau Rough Guide to Accessible Britain oedd Locomotion: Amgueddfa Rheilffordd Prydain, Shildon, Swydd Durham.

Mae’r holl atyniadau Canmoliaeth Uchel yn unedig yn eu hymwybyddiaeth a’u dealltwriaeth o anghenion eu hymwelwyr yn ogystal â’u creadigrwydd a’u sylw at fanylion wrth gyflawni’r anghenion hynny.

Wrth sôn am y newyddion, meddai Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Steph Mastoris:

“Mae cael ein gosod ar restr fer y wobr hon yn llwyddiant mawr i ni. Rydym wedi ymrwymo at wneud yr Amgueddfa yn hygyrch a phleserus i bawb, felly mae hyn yn gydnabyddiaeth i’r holl waith caled a wnaed. Mae hefyd yn cydnabod ein hymrwymiad at ddarparu gwell mynediad at gasgliadau ac arddangosfeydd yr Amgueddfa.”

Lansiwyd y Gwobrau, gyda chefnogaeth Motability Operations, i gyd-fynd gyda thrydydd rhifyn The Rough Guide to Accessible Britain. Cyflwynwyd y Gwobrau gan yr anturiaethwr a phersonoliaeth teledu, Ben Fogle mewn derbyniad yn y Tate Modern yn Llundain.

Eglurodd Ben Fogle, cyflwynydd Gwobrau Rough Guide to Accessible Britain:

“Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i deithio a chael anturiaethau anhygoel dros y blynyddoedd, ond rwyf wedi sylweddoli fod y golygfeydd harddaf a’r hanes pwysicaf yma ar garreg ein drws, o fewn cannoedd o atyniadau gwych yn y DU. Dylai pawb, beth bynnag eu hanabledd neu ofynion mynediad, fedru profi’r mannau gwych hyn o ddiddordeb.

“Mae Gwobrau Accessible Britain yn nodi llwyddiannau atyniadau, beth bynnag eu maint, ledled y DU sydd wedi dangos cryn ymdrech a chreadigrwydd wrth ddarparu profiadau cynhwysol i ymwelwyr ag anableddau. Dylai Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ymfalchïo yn eu llwyddiant fel atyniad sy’n cael Canmoliaeth Uchel. Mae’r Gwobrau a minnau’n gobeithio ysbrydoli mwy o bobl i grwydro a darganfod mwy o safleoedd gorau’r DU.”

Gosododd y panel beirniadu ac adolygwyr arbenigol y Rough Guides yr atyniadau mewn pedwar categori: Lleoliad Teuluol Gorau, Lleoliad Gweithgareddau Gorau, Lleoliad Treftadaeth Gorau a Lleoliad Rhad ac Am Ddim Gorau. Yna cynhaliodd y beirniaid asesiad terfynol o gyflwyniadau’r adolygwyr er mwyn dewis yr atyniadau buddugol a’r rhai ddylai dderbyn Canmoliaeth Uchel. Roedd ‘Dewis y Darllenydd’ yn destun pleidlais gan ddefnyddwyr arlein ar www.accessibleguide.co.uk allan o restr fer o 10 atyniad.

Ymysg y panel o feirniaid roedd Ian Macrae, golygydd Disability Now; Martin Dunford, sylfaenydd Rough Guides; Lara Masters, beirniad Britain’s Missing Top Model ac adolygydd Rough Guide; a Delia Ray, pennaeth marchnata, Motability Operations.

Cefnogir Gwobrau Accessible Britain, a’r Rough Guide to Accessible Britain, gan Motability, y prif gynllun benthyca ceir ar gyfer pobl ag anabledd, sy’n darparu pecyn moduro heb straen i dros hanner miliwn o bobl yn y DU.

Bydd adolygiad llawn o bob enillydd - yn cynnwys manylion eu gwobrau - yn y trydydd rhifyn o The Rough Guide to Accessible Britain, i’w gyhoeddi fis Ebrill 2010. Mae’r Canllaw, sydd ar gael yn RHAD AC AM DDIM i ddeiliaid Bathodyn Glas, yn cynnwys manylion dros 180 o ddiwrnodau allan ar gyfer pobl ag anableddau a’u teuluoedd.

Am fwy o wybodaeth am The Rough Guide to Accessible Britain gweler www.motability.co.uk/news-views-and-events/rough-guide-to-accessible-britain/

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ffoniwch 01792 638970.

Am fwy o wybodaeth am y gwobrau, cysylltwch â Katie Wright, Sarah Rathbone neu Candice Wagener yn Siren ar 020 3008 6280 / 07595 055 882

Yngl?n â Rough Guides

Yn gwmni CoolBrand?, ac yn enwog am fod yn ddi-flewyn ar dafod, mae Rough Guides yn brif ddarparwr gwybodaeth teithio, gyda dros 700 o ganllawiau teithio, rhodd-lyfrau, mapiau, llyfrau iaith, canllawiau arbennig a nwyddau digidol, yn cynnwys eLyfrau a chymwysiadau ffôn symudol. Gyda’u gwybodaeth gywir, wedi’i ddiweddaru’n gyson, ac arddull wybodus, gyfoes, mae’r Rough Guides hefyd yn cynhyrchu llyfrau ar ystod o bynciau, o’r Rough Guide to Pregnancy and Birth i’r Rough Guide to iPods, iTunes, and Music Online. Am fwy o wybodaeth ewch at www.roughguides.com

Yngl?n â Motability

Mae Motability yn cynnig pecyn moduro di-straen i bobl ag anableddau, gan gynnwys car newydd sbon bob tair blynedd gydag yswiriant ar gyfer dau yrrwr, gwasanaeth a chynnal a chadw, cymorth llawn RAC, disg treth car blynyddol, lwfans o 60,000 milltir dros dair blynedd, ac amnewid teiars a ffenestri. Hefyd mae nifer o addasiadau ceir ar gael heb gost ychwanegol fel rhan o raglen ‘Managed Adaptations’ Motability.