Datganiadau i'r Wasg

Steve Jones a'r Super Furries mewn lluniau

Arddangos gweithiau Comisiwn Portreadau Ffotograffaidd Cenedlaethol 2010 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain

Mae enillwyr y Comisiwn Portreadau Ffotograffaidd Cenedlaethol eleni wedi cynhyrchu portreadau newydd trawiadol o Steve Jones – yn o wyddonwyr poblogaidd mwyaf blaenllaw Prydain, a'r band roc indi Cymraeg – y Super Furry Animals sy'n enwog am ysgrifennu caneuon dwyieithog arbrofol ac arloesol.

Mae'r ddwy waith yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r Oriel Bortreadau Genedlaethol tan fis Gorffennaf 2010. Yn ogystal, y portread o Steve Jones, Athro Geneteg yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a ddewiswyd yn Ffotograff y Mis yr Oriel Bortreadau Genedlaethol ar gyfer mis Ebrill.

Cystadleuaeth flynyddol yw'r Comisiwn Portreadau Ffotograffaidd Cenedlaethol sy'n dod â thalent ffotograffaidd newydd mwyaf cyffrous Cymru wyneb yn wyneb â Chymry llwyddiannus enwog. Bob blwyddyn mae'r pwyllgor yn dewis dau neu dri o enillwyr o blith yr ymgeiswyr ac yn comisiynu portread newydd ar gyfer y casgliad cenedlaethol.

Tynnwyd Steve Jones – Siarad Esblygiad gan Tom Pope a raddiodd o Brifysgol Fetropolitan Abertawe. Yn ddiweddar, bu ar restr fer cystadleuaeth New Sensations Oriel Saatchi a Channel 4. Hefyd, mae ganddo’i arddangosfa ei hun yn Oriel Gelf Glynn Vivian tan 18 Ebrill.

Mae wedi darlunio'r gwyddonydd yn sgwrsio ag ysgerbwd primat, gan gyfuno ei ddiddordeb yn yr abs?rd ag ymchwil gwyddoniaeth am wybodaeth yngl?n â'r gorffennol a'r dyfodol.

"Mae'r cyfle i dynnu llun g?r mor flaenllaw wedi bod yn brofiad cyffrous ac yn her i mi," meddai Tom sydd ar hyn o bryd yn astudio at MA yng Ngholeg Celf Brenhinol Llundain. "Mae Steve Jones yn athro geneteg ac esblygiad mawr ei barch, a'i ddull o ysgrifennu weithiau'n ddwys ac weithiau'n ddigrif. Roedd cyfuno fy arddull ffotograffaidd bersonol sy'n tueddu at y digrif, y perfformiadol a'r abs?rd â chyflawniadau Steve Jones i greu ffotograff llawn rhyfeddod yn dasg a fwynheais yn fawr."

Tynnwyd llun y Super Furry Animals, sy'n enwog am eu cyfraniad i ddadeni celfyddyd a cherddoriaeth Cymru ers y 1990au, gan Sophie Keyworth y tu ôl i'r llwyfan yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd. Mae gwaith Sophie'n cyfleu agosatrwydd a thensiwn y band cyn eu perfformiad.

Graddiodd Sophie o Goleg Sir Gâr yn 2008 ac mae cerddoriaeth wedi bod yn thema ganolog i'w gwaith erioed, yn enwedig artistiaid Dubstep.

Sefydlwyd y Comisiwn Portreadau Ffotograffaidd Cenedlaethol gan Amgueddfa Cymru yn 2004 ar y cyd â'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain. Beth McIntyre, Curadur Printiadau a Darluniau Amgueddfa Cymru, yw Cadeirydd y panel beirniaid. Dywedodd:

“Un o gryfderau'r Comisiwn yw ei fod yn rhoi cyfle i ffotograffwyr newydd mwyaf talentog Cymru bortreadu pobl o bob lliw a llun. Pleser o'r mwyaf yw cefnogi graddedigion ffotograffiaeth o'r ansawdd uchaf a gwelwyd y fenter yn datblygu o flwyddyn i flwyddyn."

Ymhlith portreadau blaenorol, mae un o'r actor o Gymru, Michael Sheen, a enwebwyd ar gyfer BAFTA a Gwobr Laurence Olivier, Archesgob Caergaint, y Parchedicaf Ddr Rowan Williams a'r cynhyrchydd teledu ac awdur sgriptiau Dr Who, Russell T. Davies.

Ychwanegodd Terence Pepper, Curadur Ffotograffau, yr Oriel Bortreadau Genedlaethol:

“Rydym yn hynod o falch o gael parhau i fod yn rhan o'r project cyffrous hwn sy'n meithrin gwaith ffotograffwyr ifanc newydd. Mae'r project hefyd yn adlewyrchu ein diddordeb cyffredin mewn casglu portreadau o Gymry enwog sy'n cyfrannu at fywyd a diwylliant ym Mhrydain."

Un o saith o Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yr amgueddfeydd eraill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae mynediad am ddim i bob un o'r amgueddfeydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Diwedd

Am wybodaeth bellach, croeso i chi gysylltu â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185 / 07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@museumwales.ac.uk <mailto:catrin.mears@museumwales.ac.uk>.