Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n agor ei drysau gyda'r hwyr!
Dyddiad:
2010-05-10Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor ei drysau gyda’r hwyr – am un noson yn unig.
I gefnogi ymgyrch flynyddol Amgueddfeydd Liw Nos (14-16 Mai), bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnal y digwyddiad arbennig Noson yn yr Amgueddfa ddydd Sadwrn 15 Mai, 6 tan 10pm.
Gall adar y nos edrych ymlaen at noson o hwyl ac adloniant wrth i’r Amgueddfa agor ei drysau ar gyfer y dathliadau liw nos.
Byddwn yn dod â’r gorffennol yn fyw gyda chymorth cymeriadau hanesyddol go-iawn, cerddoriaeth fyw, adrodd straeon a ffilm i deuluoedd. Bydd gweithgareddau ymarferol yn cynnwys helfa drysor (gwobrau i’r rhai sy’n llwyddo i gracio’r cod), plannu hadau llysiau a phrintio gyda gwasg lythrennau.
“Rydym wedi cael ymateb gwych i’r digwyddiad hyd yn hyn ac mae llawer o bobl wedi archebu lle,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry. “Profodd hyn i fod yn ffordd wych o gyflwyno’r Amgueddfa i fwy a mwy o bobl sy’n awyddus i brofi rhywbeth ychydyg yn wahanol. Mae’n gyfle ardderchog i fwynhau’r casgliadau gyda’r hwyr – digwyddiad delfrydol i’r teulu cyfan ei fwynhau.”
Nifer cyfyngedig o lefydd, argymhellir archebu’n gynnar.
Mynediad i’r digwyddiad: £2 y pen.
DIWEDD
Nodiadau i’r golygydd
• Ariennir Amgueddfeydd Liw Nos 2010 gan Gyngor yr Amgueddfeydd Llyfrgelloedd ac Archifau (MLA) ac fe’i trefnwyd gan Culture24. Am fwy o wybodaeth ewch i www.culture24.org.uk
• Cynhelir Penwythnos Amgueddfeydd Liw Nos rhwng Gwener 14-Sul 16 Mai, a bydd y dathliad ledled Ewrop yn digwydd ddydd Sul 15 Mai.
• Croeso i aelodau o’r wasg – cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970 os ydych yn bwriadu dod.
• Mae mynediad i amgueddfeydd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.
• Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru:
• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
• Amgueddfa Wlân Cymru
• Amgueddfa Lechi Cymru
• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau