Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n paratoi ar gyfer Wythnos Addysg i Oedolion

Ydych chi eisiau gwybod sut i gadw pethau arbennig mewn cyflwr da? Ydy’r peli camffor wedi dechrau difrodi’ch dillad gwerthfawr? Am wybod sut i storio hen ffotograffau neu lyfrau? Wel, dyma’r ateb i’ch holl gwestiynau!

I ddathlu Wythnos Addysg i Oedolion eleni (15-21 Mai), mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnal tri gweithdy ar thema i’ch helpu i fynd i’r afael â phob math o benblethau’n ymwneud â chadwraeth.

Ymunwch â ni ddydd Mercher 19 Mai i ddysgu sut i ofalu am ddillad a thecstilau, dydd Iau 20 Mai am gyfle i drwsio potyn a dysgu technegau gofalu am wrthrychau bach, a dydd Gwener 21 Mai i nodi’r dulliau gorau o gadw llyfrau a ffotograffau bregus.

“Dyma gyfres ardderchog o weithdai o ddiddordeb i unrhyw un sy’n awyddus i ddatblygu’u gwybodaeth a sgiliau yn y maes hwn,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry. “Arweinir pob un o’r gweithdai gan staff cadwraeth cymwys o’r Amgueddfa â phrofiad helaeth o weithio ym maes cadwraeth.”

Wrth siarad am y gweithdy technegau trwsio potiau, meddai’r Cadwraethydd Jen Griffiths: “Mae’n gyfle i bobl sy’n ymddiddori mewn cerameg i ddysgu mwy. Byddaf yn edrych ar wahanol fathau o atgyweiriadau a ellir eu cyflawni gyda deunyddiau cerameg, a bydd cyfle i bobl roi cynnig ar rai o’r technegau drostynt eu hunain.”

Mae pob un o’r gweithdai yn rhad ac am ddim, ac yn dechrau am 2pm. Archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi (01792) 638950.

Mae’r Amgueddfa hefyd yn cynnal digwyddiad i lansio Wythnos Addysg i Oedolion yn swyddogol yng Ng?yl Ddysgu Abertawe. Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim hwn ddydd Sadwrn 15 Mai (11-4pm), a bydd yn amlygu nifer o gyfleoedd addysg i oedolion ledled y ddinas. Lleolir y digwyddiad ar safle’r Amgueddfa, a gall ymwelwyr ddysgu am gyrsiau - o brintio-mono i gyfrifiaduro - yn ogystal â rhoi cynnig ar folddawnsio a drymio Affricanaidd. Bydd gweithgareddau celf a chrefft i’r plant a cherddoriaeth gan gôr y Gweilch.

Wrth siarad am y digwyddiad meddai Clare Southard, cydlynydd Gorllewin Cymru ar gyfer NIACE Dysgu Cymru: “Rydyn ni’n hapus iawn i lansio Wythnos Addysg i Oedolion Abertawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Bydd hwn yn ddiwrnod llawn hwyl â digonedd o weithgareddau i siwtio pawb. Bydd cyngor hefyd ar sut i ddatblygu’ch sgiliau yn y gweithle a gwella’ch rhagolygon swydd yn ogystal â manylion am gyrsiau sydd ar gael yn eich ardal chi – edrychwn ymlaen at eich croesawu ddydd Sadwrn."

Mae Partneriaeth G?yl Ddysgu Abertawe yn cynnwys darparwyr addysg a sefydliadau sy’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu ar gyfer pawb. Am fwy o wybodaeth ewch i http://yourfuturechoiceaction.org.uk/cymraeg/freeevents.html

Croeso i aelodau o’r cyfryngau – cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970 os ydych chi’n bwriadu dod.

Mae mynediad i amgueddfeydd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru.

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

• Amgueddfa Wlân Cymru

• Amgueddfa Lechi Cymru

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau