Datganiadau i'r Wasg

Dechrau'n Deg ar y Glannau

Cafwyd dechrau da i yrfaoedd artistiaid ifanc gydag arddangosfa arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Bydd gwaith plant pump oed ac iau o gynllun gofal plant Dechrau’n Deg yn Ysgol Gynradd Seaview a Chanolfan Blant Stepping Stones, yn cael ei arddangos hyd at Sadwrn 17 Gorffennaf 2010.

Gweithiodd y ddau gr?p gydag artist proffesiynol ar gyfer eu projectau, gan ddefnyddio straeon fel man cychwyn ar gyfer eu gwaith celf.

Dewisodd plant Seaview stori Y Lindysyn Llwglyd Iawn gan Eric Carle, gan greu lindys enfawr drwy ddefnyddio amrywiaeth o ffrwythau a llysiau. Ysbrydolwyd plant Stepping Stones gan Olwynion ar y Bws i greu gwaith celf o baent, glitter a chardfwrdd.

Meddai cydlynydd yr arddangosfa, Anna Westall: “Mae rhaglen Dechrau’n Deg yn ceisio gwneud gwahaniaeth pendant i gyfleoedd bywyd plant dan 4 oed yn yr ardaloedd lle mae’n weithredol.

“Ysbrydolwyd y syniad am gael artist preswyl gan waith tebyg yn Reggio Emilia, yr Eidal, lle mae’r gymuned wedi croesawu’r syniad.”

Meddai Alison Sharp, sy’n gofalu am blant yn Seaview: “Gweithgaredd hyfryd fel dilyniant i stori boblogaidd iawn. Roedd yr holl blant a’r staff wedi mwynhau cyfranogi. “

Meddai Sue James, Swyddog Addysg Allestyn yr Amgueddfa, a fu’n gweithio gyda Dechrau’n Deg i hwyluso’r gwaith: “Mae’n ddiddorol gweld y ffordd mae’r tîm Dechrau’n Deg wedi defnyddio rhai o’r themâu yn yr Amgueddfa, megis trafnidiaeth a bwydydd y dyfodol yn eu project. Mae’r plant, gyda chefnogaeth y tîm, wedi creu arddangosfa wych, sy’n werth ei gweld.”

Mae’r arddangosfa liwgar, sy’n cynnwys holl waith y plant a lluniau o’r broses, yn cael ei harddangos nes Sadwrn 17 Gorffennaf yn Oriel Wal Goch yr Amgueddfa.

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Anna Westall (Cydlynydd Dechrau Da a Dechrau’n Deg/Llyfrgelloedd) ar (01792) 637179.

Mae mynediad i amgueddfeydd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe