Datganiadau i'r Wasg
Yael Bartana yn ennill Gwobr Artes Mundi 4
Dyddiad:
2010-05-20Newid gwleidyddol a chymdeithasol yn cael ei bortreadu gan enillydd gwobr gelf fwyaf y DU
Dyfarnwyd 4ydd Gwobr celfyddyd gyfoes Artes Mundi o £40,000 i Yael Bartana yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd neithiwr, Mercher 19 Mai 2010.
Mae Artes Mundi 4 wedi dangos y gall artistiaid cyfoes gynnig ffordd newydd o edrych ar faterion byd-eang yn ogystal â gwleidyddiaeth gwledydd penodol. Derbyniodd Bartana’r wobr am waith dros y pump i wyth mlynedd ddiwethaf, gwaith sydd wedi ysgogi ystyriaeth gyson am y cyflwr dynol, ac wedi ychwanegu at ein dealltwriaeth o ddynoliaeth.
Mae’r artist buddugol yn creu delweddau gweledol cymhleth trwy gyfrwng ffotograffiaeth, ffilm, fideo, sain a gosodiadau. Mae’n defnyddio technegau dogfennu ac ail-greu, gan symud rhwng y chwareus a’r difrifol, ac yn canolbwyntio’n aml ar Israel a’r sefyllfa Israelaidd. Mae’n ystyried manylion ac arferion bywyd bob dydd ac yn eu cysylltu â gweithredoedd y wladwriaeth a chysgod parhaus rhyfel ac ansicrwydd. Mae ei gwaith yn weledol a deallusol ddiddorol, ac yn canolbwyntio ar berthynas ddynol yn gymaint â gwleidyddiaeth.
Llongyfarchwyd Yael Bartana gan Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru wrth i’r cyhoeddiad gael ei wneud gan yr Athro Sarat Maharaj, Athro Celfyddyd Weledol a Systemau Gwybodaeth, Prifysgol Lund ac Academi Gelf Malmo, Sweden, cadeirydd y panel o feirniaid a oedd yn cynnwys yr artist o Chile Eugenio Dittborn, Hannah Firth, Pennaeth Celfyddyd Weledol yn y Chapter, Caerdydd, ac Adam Szymczyk, Cyfarwyddwr a Phrif Guradur Kunsthalle Basel, ac Octavio Zaya, curadur annibynnol ac awdur celf yn Efrog Newydd.
Meddai’r Athro Sarat Maharaj:
“Rydym yn byw mewn oes ble mae gofyn i ni wynebu pryderon llwythol a thiriogaethol a ble mae ffiniau cenedlaethol a rhanbarthol yn cael eu dadlau sy’n arwain at ganlyniadau dinistriol. Mae Yael Bartana wedi ffeindio strategaethau dyfeisgar yn gyson i gwestiynu’r syniad haniaethol o ddelwedd cenedl gyfan - cwestiwn sy’n sylfaen i’r cyflwr dynol.
“Roedd safon uchel iawn gwaith yr wyth artist ar y rhestr fer –– yn beintiadau, ffotograffiaeth, ffilm, fideo, sain, gosodiadau a darluniau –– yn gwneud penderfyniad y beirniaid yn un anodd iawn.
“Mae pob un yn haeddu cydnabyddiaeth a chanmoliaeth am eu gwaith sy’n edrych ar hunaniaeth genedlaethol, globaleiddio, prynwriaeth, propaganda a mudo. O fasnachwyr Kyrgyzstan ar y Ffordd Sidan i weithwyr ffatri o Taiwan, mae artistiaid Artes Mundi 4 yn dod â bywydau pobl gyffredin ledled y byd yn fyw, ac yn dod â diwylliannau anghyfarwydd yn agosach at y gwylwyr yn y DU.”
Yr artistiaid a ddewiswyd ar gyfer Artes Mundi 4 oedd Yael Bartana (Israel), Fernando Bryce (Periw), Ergin Çavu?o?lu (Bwlgaria), Chen Chieh-jen (Taiwan), Olga Chernysheva (Rwsia), Gulnara Kasmalieva a Muratbek Djumaliev (Kyrgyzstan) ac Adrian Paci (Albania).
Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Mae Artes Mundi yn fenter bwysig a llwyddiannus, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi medru cefnogi’r wobr o’r cychwyn. Mae’r effaith yn treiddio tu hwnt i Gymru, i’r DU a chynulleidfaoedd ehangach yn rhyngwladol. Nid yn unig yn un o wobrau celf mwyaf y byd, mae hefyd yn un o’r rhai prin sy’n wirioneddol ryngwladol, yn darparu llwyfan arddangos ar gyfer artistiaid o bob cwr o’r byd.”
Cefnogir y broses ddewis a beirniadu rhyngwladol gan Bank of America Merrill Lynch fel rhan o’u rhaglen ryngwladol o gefnogaeth i’r celfyddydau.
Meddai Rena DeSisto, swyddog Treftadaeth a Chelfyddyd Byd-eang Bank of America Merrill Lynch:
“Mae Artes Mundi, sydd bob yn ail flwyddyn yn dathlu gwaith artistiaid o bob cwr o’r byd, yn rhoi llwyfan rhyngwladol i dalent artistig gyffrous a’u profiadau diwylliannol anhygoel. Mae’r fenter hon yn adlewyrchu cred Bank of America Merrill Lynch fod dealltwriaeth ddiwylliannol fyd-eang yn arwain at well cyfleoedd economaidd i bawb.
“Dymuna Bank of America Merrill Lynch longyfarch pob un o’r artistiaid ar y rhestr fer, ac yn arbennig yr enillydd, Yael Bartana. Gobeithiwn y bydd ymwelwyr yn mwynhau’r arddangosfa ddadlennol hon.”
Yn ymuno gyda Bank of America Merill Lynch fel noddwyr Artes Mundi 4 mae Admiral, Legal & General, y Western Mail, Sky Arts, First Great Western, Starbucks, Confused.com a’r ganolfan siopa Dewi Sant newydd yng Nghaerdydd, sydd hefyd wedi buddsoddi’n sylweddol mewn celfyddyd gyhoeddus yn y ddinas. Mewn cydnabyddiaeth o’u partneriaethau creadigol gyda’r sector gorfforaethol, ariannwyd Artes Mundi 4 drwy’r Rhaglen Buddsoddi Celfyddyd a Busnes.
Mae arddangosfa rhestr fer Artes Mundi, sydd eisoes wedi denu nifer fawr o ymwelwyr – dros 25,000 o bobl - yn parhau nes 6 Mehefin yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Diwedd
Gwybodaeth i’r Wasg: Jeanette Ward, Theresa Simon & Partners
+44 (0) 20 7734 4800 | +44 (0) 7729 930 812 | jeanette@theresasimon.com
Lluniau ar gael ar www.theresasimon.com/press
neu
Catrin Mears, Amgueddfa Cymru
029 2057 3185 / 07920 027067 / catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk