Datganiadau i'r Wasg

Annog Cymru i weithredu i ddiogelu bioamrywiaeth

Ymwelwyr â thridiau o ddathliadau Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth 2010 yng Nghymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cael eu hannog i Wneud Un Peth dros Natur

Mae bioamrywiaeth yn hanfodol i’n bodolaeth; hebddo, ni fyddwn yn goroesi. Cynhelir gweithgareddau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 20 a 22 Mai 2010 (11am-4pm) gan gynnwys trywydd coed hynafol, gwylio hebogau tramor yn fyw ar we-gamera, ymlusgiaid byw a theithiau tu ôl i’r llen yn yr amgueddfa, i gynorthwyo ymwelwyr i ddysgu am bwysigrwydd cadwraeth a defnyddio bywyd ar y Ddaear mewn ffordd gynaliadwy.

O elusennau i amgueddfeydd, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt a cholegau, mae dros 20 o fudiadau sy’n amddiffyn bioamrywiaeth yng Nghymru wedi uno eleni i chwarae rhan yn yr ymgyrch fyd-eang – Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth 2010. Y nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwarchod yr amrywiaeth anhygoel o fywyd ar ein planed, ac annog eraill i addunedu i Wneud Un Peth i helpu’r achos.

Bydd y rhaglen bartneriaeth yng Nghymru yn dechrau yn yr Amgueddfa yng Nghaerdydd ar 20 Mai – yn arwain at Ddiwrnod Rhyngwladol Amrywiaeth Biolegol (22 Mai 2010) – gyda Jane Davidson, AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, a Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru. Byddant yn pwysleisio pwysigrwydd bioamrywiaeth fel elfen hanfodol ar gyfer ein hiechyd a’n lles, ein heconomi, ac yn y pen draw, ein bywydau.

Mae Bioamrywiaeth yn rheoli ein cyflenwadau awyr a d?r, yn ailgylchu maetholion i ddarparu pridd ffrwythlon, yn peillio ein coed ffrwythau a’n cnydau, ac yn darparu bwyd, tanwydd a deunyddiau adeiladu. Rydym oll yn dibynnu ar fioamrywiaeth felly mae’n hanfodol ein bod yn deall sut mae’n gweithio, er mwyn gwneud penderfyniadau cywir ar sut i’w gynnal.

Tridiau o ddathliadau Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth 2010 yng Nghymru

Gall yr holl deulu gyfranogi yn y digwyddiad rhad ac am ddim rhwng 11am a 4pm, 20-22 Mai pan ddaw’r Amgueddfa yn fyw gyda chymysgedd o weithgareddau rhad ac am ddim, gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru gan fudiadau megis Canolfannau Cofnodion Lleol Cymru a Coed Cymru, a chyngor gan bartneriaid am yr hyn y gallwch ei wneud yn y cartref:

• Bydd Amgueddfa Cymru a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn annog ymwelwyr i Wneud Un Peth dros natur, gan gynnig cyngor ar yr hyn y gellir ei wneud yn eich gardd gefn (11am-4pm bob dydd);

• Bydd Dr Rhys Jones – cyflwynydd bywyd gwyllt y BBC – yn bresennol, gyda’i ymlusgiaid cyfeillgar (20 a 22 Mai, 11am-4pm);

• Bydd presenoldeb gan Llefydd i Natur y BBC hefyd, gyda gweithgareddau Diwrnod Allan Springwatch yn cynnig cyfle i ddysgu am faterion bioamrywiaeth a syniadau am yr hyn y gall pobl ei wneud dros natur yn lleol (11am-4pm bob dydd);

• Bydd Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru yn rhannu gwybodaeth am eu gwaith wrth neilltuo llefydd gwyllt i’w sefydlu fel gwarchodfeydd natur – rhan hanfodol o waith yr Ymddiriedolaeth (11am-4pm bob dydd);

• Bydd Cyngor Caerdydd hefyd yn cael cwmni ymlusgiaid ac amffibiaid gwyllt (20 a 22 Mai 11am-4pm);

• Dewch i gwrdd â gwyddonwyr Amgueddfa Cymru, dysgu am eu hymchwil a chanfod sut y maent yn dogfennu a gofalu am y gwrthrychau yn eu gofal, gan gynnwys rhywogaethau newydd megis yr Ysbryd Wlithen. Cynhelir teithiau unigryw y tu ôl i’r llen ar 22 Mai am 11.30am a 2pm, yn dangos casgliadau nad ydynt yn cael eu harddangos fel rheol;

• Bydd tîm Addysg Amgueddfa Cymru'n edrych ar gregyn mor lleol ac adnabod anifeiliaid sy’n byw mewn pyllau dwr (11am-4pm bob dydd);

• Bydd RSPB Cymru yn cynorthwyo’r cyhoedd i weld yr hebogau tramor sy’n nythu ar D?r Cloc Neuadd y Ddinas drwy ysbienddrych a thrwy’r camera yn y nyth, ac yn perswadio ymwelwyr i fuddsoddi mewn materion gwyrdd drwy’r ymgyrch Llythyr i’r Dyfodol (11am-4pm bob dydd);

• Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cynnal gêm i blant (11am-4pm bob dydd);

• Cewch boster a sticeri yn stondin Helfa Coed Hynafol, yna gallwch chwilio am anifeiliaid ymysg y coed ym Mharc Bute (11am-4pm bob dydd);

• Bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn egluro pam mai bioamrywiaeth yw sylfaen bywyd, ac yn cynnal gweithgareddau i blant ar y dydd Iau a’r dydd Sadwrn, yngl?n â’n coedwigoedd a chynefinoedd;

• Edrychwch drwy ficrosgop ar faw dyfrgwn a phelenni’r dylluan wen, gyda Phrifysgol Abertawe (11am-4pm 22 Mai);

• Bydd Parc Geneteg Cymru yn dod â Helicsau DNA Origami gyda hwy (20 a 22 Mai 11am – 4pm);

• Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn ecoleg, ewch at stondin Athrofa Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol Cymru a Chymdeithas Ecoleg Prydain (11am-4pm 20 Mai).

Mae’r gweithgaredd hwn yng Nghymru yn rhan o raglen o ddigwyddiadau ledled y byd i dynnu sylw at golli bioamrywiaeth. Amcangyfrifir fod y golled, o ganlyniad i weithgareddau dynoliaeth, 1,000 gwaith yn fwy na’r raddfa naturiol. Disgwylir i hyn godi ymhellach yn sgil effaith newid hinsawdd.

Meddai Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru:

“Mae’n galonogol iawn fod cymaint o fudiadau yng Nghymru yn cydweithio i berswadio mwy o bobl i gymryd bioamrywiaeth o ddifrif. Y nod eleni yw gweithio mewn partneriaeth – yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i wneud gwahaniaeth. Bydd y digwyddiad tri diwrnod yn yr Amgueddfa yn tynnu sylw at yr hyn y gall pobl ei wneud ar garreg eu drws i atal colli bioamrywiaeth, gan gyfrannu yn y pen draw at ymgyrch fyd-eang.”

Mae nifer o’r cymdeithasau sy’n rhan o’r fenter yng Nghymru hefyd yn rhan o bartneriaeth ledled y DU. Maent yn gobeithio helpu pobl i ddeall y materion yn well, a dysgu am lwyddiannau sy’n dangos y ffordd ymlaen. Am wybodaeth ar sut i gyfranogi, neu i ddysgu mwy am ddigwyddiadau yn y DU yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth, ewch at www.biodiversityislife.net.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad rhad ac am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Mai, ewch at www.museumwales.ac.uk/iybwales, tudalen IYB Cymru ar Facebook, neu dilynwch IYB Cymru ar Twitter.

- Diwedd -

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Catrin Mears, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 neu catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk neu Dana Thomas, RSPB Cymru ar (029) 2035 3007 neu Dana.Thomas@rspb.org.uk.