Datganiadau i'r Wasg

Lansio Wythnos Ffoaduriaid yng Nghymru yn y Glannau

Bydd cymysgedd gyffrous o gerddoriaeth, dawnsio a chrefftau yn cael llwyfan yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’r penwythnos hwn (Sadwrn 12 Mehefin, 12-4.30pm) i nodi Wythnos Ffoaduriaid 2010.

Mae Wythnos Ffoaduriaid (14-20 Mehefin) yn llwyfan unigryw lle gall gwahanol gymunedau a rhannau o’r gymdeithas uno i gynnig ffyrdd newydd a chreadigol o ddeall profiadau ffoaduriaid a dathlu gwahaniaeth diwylliannol.

Ers canrifoedd, mae ffoaduriaid wedi cyfrannu’n helaeth at ddatblygiad Cymru gyda’u sgiliau a chrefftau newydd. Yn y 1300au, cyflwynodd y Fflandryswyr a’r Ffrancwyr dechnegau gwehyddu, a mab peiriannydd sifil Ffrengig, Isambard Kingdom Brunel a gynlluniodd Bont Gland?r. Cafodd llwyddiannau peirianyddol eraill Brunel effaith enfawr ar dirwedd ddiwydiannol a rhwydweithiau rheilffyrdd Cymru a Lloegr.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r Amgueddfa gynnal y digwyddiad lansio swyddogol yng Nghymru. Meddai’r Trefnydd a Swyddog Addysg Gymunedol yr Amgueddfa, Sue James: “Rydym yn falch iawn o gynnal y lansiad unwaith eto, cawsom adborth gwych llynedd, daeth nifer o bobl o bob cefndir i ymuno yn y dathliadau, ac rydym yn gobeithio gweld yr un fath eto eleni.”

Ymysg y perfformiadau ar gyfer dydd Sadwrn mae band cerddoriaeth werin o Gymru a cherddoriaeth gan grwpiau o Iran a Kurdistan. Y prif berfformwyr fydd 2 Rude – band ska saith darn o Gasnewydd, a bydd Samba Tawe yn arwain gorymdaith liwgar drwy strydoedd y ddinas o Stryd Rhydychen i lawnt yr Amgueddfa.

Hefyd bydd stondinau ymwybyddiaeth yn cynnwys Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Canolfan Gymunedol Affricanaidd, Croes Goch Prydain a Sandsfields Ddoe a Heddiw – project cymunedol sy’n edrych ar hanes difyr yr ardal. Bydd arddangosfa arbennig gan Ysgol Gymunedol Pentrehafod, yn archwilio diwydiant copr Abertawe a’r cymunedau sy’n byw yno o ganlyniad.

Yn yr Amgueddfa, bydd gr?p drama amatur yn perfformio drama yn Oriel y Stordy rhwng 3 a 4pm am yr her sy’n wynebu ffoaduriaid, a bydd digon i ddiddanu’r plant gyda gweithgareddau megis sgiliau syrcas, celf a chrefft a gemau gardd enfawr. Bydd meithrinfa ar gael.

Wrth siarad am y digwyddiad, meddai Hawar Ameen, Cydlynydd Wythnos Ffoaduriaid yng Nghymru: “Mae’r digwyddiad lansio yn llwyfan gwych i ni gynnig negeseuon cadarnhaol, addysgiadol sy’n herio ofn, anwybodaeth ac ystrydebau negyddol o ffoaduriaid. Gobeithiwn y bydd yn uno gwahanol ddiwylliannau ac yn dod â phobl o bob cwr o’r byd at ei gilydd.”

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth am Wythnos Ffoaduriaid yng Nghymru ewch at http://www.refugeeweek.org.uk/InYourArea/Wales

Mae mynediad i Amgueddfa Cymru yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

• Mae Amgueddfa Cymru yn cynnal saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru.

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe