Datganiadau i'r Wasg

Diwydiant Llechi Gogledd Cymru yn gwneud cais am Statws Treftadaeth y Byd

Mae diwydiant llechi gogledd Cymru yn gobeithio ennill statws hollbwysig Treftadaeth y Byd.

Dewisir safleoedd Treftadaeth y Byd ar sail eu gwerth diwylliannol, hanesyddol neu wyddonol byd-eang pwysig a chred y cefnogwyr fod diwydiant llechi gogledd Cymru wedi llunio tirwedd gymdeithasol, wleidyddol, economaidd a diwylliannol Cymru.

Yn ôl Dr Dafydd Roberts, ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, mae treftadaeth y diwydiant llechi i’w gweld yn y chwareli, y trefi, yr adeiladau, yr iaith ac yn niwylliant pobl ar draws Gwynedd a gogledd Cymru.

"Mae’r diwydiant llechi wedi llunio cymunedau – yr oedd ganddynt, ac y mae ganddynt o hyd, eu diwylliant arbennig ac unigryw eu hunain.  Roedd yr ardaloedd hyn yn gadarnleoedd i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, ac maent yn parhau felly, ac mae trefi megis Bethesda, Blaenau Ffestiniog a Llanberis wedi datblygu cymeriad unigryw sy’n parhau hyd y dydd heddiw.  Bydd dadlau’r achos dros statws treftadaeth i ddiwylliant sy’n dal i fynd yn ei flaen mewn rhai ardaloedd, gyda rhai chwareli yn dal i weithio, yn dipyn o her.  Fodd bynnag, mae gan chwareli sy’n gweithio lawer o rannau gwag a segur, ac mae llawer ohonynt erbyn hyn yn gyrchfannau pwysig i ymwelwyr fel ni yma.”

Meddai Dr David Gwyn, yr archaeolegydd a hanesydd:

“Mae’r diwydiant llechi o werth arbennig a byd-eang.  Pa le bynnag yr ewch chi ar draws y byd, fe welwch lechi o Gymru ar y toeau.  Does dim gwahaniaeth a ydych chi ym Melbourne neu Efrog Newydd.”

Mae cefnogwyr y cais yn credu y byddai ennill statws treftadaeth yn rhoi hwb economaidd enfawr i’r rhanbarth yn sgil twristiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Lewis y byddai cais llwyddiannus yn “gyfle cyffrous i ddiogelu treftadaeth, diwylliant ac iaith yr ardaloedd hyn ar y llwyfan rhyngwladol. Gallwn ddangos i’r byd pa mor dda yw treftadaeth y diwydiant llechi yng Ngwynedd.”

Mae gan Gymru ar hyn o bryd dri Safle Treftadaeth y Byd: cestyll a muriau trefi y Brenin Edward yng Ngwynedd, tirwedd ddiwydiannol Blaenafon ym Mlaenau Gwent a Thraphont Dd?r a Chamlas Pontcysylltau yn Wrecsam.

 Cyflwynwyd y cais i’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (ADCCh/DCMS). Hwn yw’r cam cyntaf yn y broses hir o wneud penderfyniadau a all gymryd o bum i ddeng mlynedd. Os caiff ei gymeradwyo gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon bydd yn cael ei roi ar “restr gychwynnol”, ac yna ar restr enwebu lle caiff ei asesu gan y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS) ac Undeb Cadwraeth y Byd (IUCN). Os bydd yn llwyddiannus, bydd y cais yna’n cael ei farnu gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd, sy’n cyfarfod unwaith y flwyddyn i benderfynu pa safleoedd a gaiff eu rhoi ar Restr Treftadaeth y Byd.