Datganiadau i'r Wasg

Arthur yn dychwelyd i Gaerllion

Arthur: y Brenin Chwedlonol a fu’n amddiffyn Prydain, yn barod i wneud hynny eto

Boed yn rhyfelwr o gig a gwaed yn y 6ed Ganrif neu’n gynnyrch dychymyg awdur canoloesol, bydd Arthur ar lwyfan amffitheatr Rufeinig Caerllion ar 3 a 4 Gorffennaf 2010, fel rhan o ddigwyddiad haf blynyddol Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Arthur, a fydd yn dychwelyd i achub Cymru pan fydd dirfawr ei angen yn ôl y sôn, fydd canolbwynt Arthur: o Gaerllion i Gamelod - digwyddiad dau ddiwrnod (11am – 5pm) sy’n addas i’r holl deulu.

Er nad oes tystiolaeth gadarnhaol am Arthur wedi’i ganfod erioed, mae wedi cydio yn nychymyg y genedl am dros 1,000 o flynyddoedd, a bydd yn gwneud hynny eto ym mis Gorffennaf. Dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau i’r lleoliad unigryw - yr amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn yn y DU - a gwyliwch Britannia, y Gymdeithas Arthuraidd yn dod â hanes y Brenin yn fyw.

“Mewn sawl agwedd, Caerllion yw gwir gartref y Brenin Arthur a Marchogion y Ford Gron,” meddai Mark Lewis, Curadur Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

“Mae nifer o awduron wedi ysgrifennu am y Brenin Arthur, ei farchogion anrhydeddus, boneddigesau sydd angen cymorth a chwestau hudol. Fodd bynnag cychwynnodd ei enwogrwydd mewn gwirionedd yn llyfr Sieffre o Fynwy, ‘Hanes Brenhinoedd Prydain’ sy’n dyddio yn ôl i tua 1135.”

Yn ei lyfr, meddai Sieffre fod Arthur wedi cynnal llys, ac wedi cael ei goroni yng Nghaerllion, ac mae’n sôn amdano yntau a Gwenhwyfar, a ddaeth i fod yn lleian yng Nghaerllion yn y pen draw.

Ychwanegodd Dai Price, Rheolwr yr Amgueddfa:

“Mae Arthur: o Gaerllion i Gamelod yn olwg newydd ar ein Harddangosfa Filwrol flynyddol. Roeddem am gynnig rhywbeth ffres i’n hymwelwyr ffyddlon yn ogystal â chyflwyno hud Caerllion i ymwelwyr newydd.

“Gan ei fod yn destun cyfres Merlin ar y BBC, yn ffigwr poblogaidd ymysg bobl leol, ac yn medru hyrwyddo’r ardal ymhellach, rydym yn edrych ymlaen at archwilio’r cysylltiadau rhwng Arthur a Chaerllion.”

Am £4.50 ar gyfer oedolion, £2.50 pris gostyngol, a £12 ar gyfer teulu (2 oedolyn a 3 plentyn) bydd cyfle hefyd i glywed Dr Juliette Wood yn siarad ar y testun 'The Truth About King Arthur'. Gallwch gymryd taith o amgylch Caerllion Rufeinig gydag Archeolegydd, siopa yn y stondinau crefft a gadael i’r plant orymdeithio yn yr Amffitheatr! I archebu’ch tocynnau neu am fwy o wybodaeth ffoniwch (01633) 423134.

Bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru hefyd yn cynnal arddangosfa a gosodiad fideo dros dro yn edrych ar y chwedl, o 28 Mehefin 2010 ymlaen, Arthur – Brenin Ddoe ac Yfory.

Mae mynediad i’r arddangosfa a’r Amgueddfa am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa ledled Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth a lluniau cysylltwch â Catrin Mears ar 029 2057 3185/07920 027067 neu anfonwch e-bost at: catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.