Datganiadau i'r Wasg

Cyfnod rhyngweithiol newydd i Amgueddfa Cymru

Oriel Ddarganfod yr Amgueddfa’n fwy ac yn well nag erioed

Bydd oriel newydd, sy’n cynnig cysylltiad ymarferol â’r gorffennol, yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dydd Sadwrn (11 Gorffennaf). Crëwyd Canolfan Ddarganfod Clore diolch i grant o dros £160,000 gan Sefydliad Clore Duffield sef mudiad a sefydlwyd yn 1964 gan y diweddar Syr Charles Clore - un o’r dynion busnes mwyaf llewyrchus ar ôl y rhyfel ac un o ddyngarwyr mwyaf hael ei ddydd.

“Bydd ein horiel newydd yn galluogi ymwelwyr i gysylltu â’r gorffennol mewn ffordd gyffrous,” dywedodd Ceri Black, Pennaeth Addysg yr Amgueddfa. “Bydd pobl yn medru trin darnau o’r casgliad fel gwrthrychau efydd a ffosiliau, darllen dogfennau hanesyddol a mwynhau profiad rhyngweithiol fydd yn help i ddod â’r gorffennol yn fyw.

“Dyma ddechrau cyfnod newydd o ddyfeisgarwch mewn addysg yn Amgueddfa Cymru. Agorir lleoliadau addysg newydd blwyddyn nesaf hefyd fydd yn ychwanegu at y gwasanaeth y gallwn gynnig i deuluoedd, ysgolion ac ymwelwyr o bob oedran sy’n ymweld â ni’n gyson.”

Mae Canolfan Ddarganfod Clore yn cymryd lle Oriel Ddarganfod Glanely. Mae’n fwy a’n well o ran maint ac ansawdd, ac yn storio sawl adnodd newydd i annog ymdriniaeth o wrthrychau ac archwilio manylach nag erioed o’r blaen.

Dywedodd Grace Todd o’r Adran Addysg, sydd wedi chwarae rhan fawr yn y prosiect ar y cyd â Jo Langley:

“Rydyn ni wedi bwrw lawr y waliau ffug ac wedi creu lle ar gyfer casys ychwanegol. Fe allwn ni nawr arddangos sawl gwrthrych, nad oedden ni’n medru yn yr oriel o’r blaen.

“Gall ymwelwyr gyffwrdd â’r gwrthrychau sy’n cael eu harddangos gan gynnwys eitemau o gasgliad yr Amgueddfa fel gwrthrychau daearegol, sbesimenau hanes naturiol, arteffactau archeolegol ac eitemau’n tanlinellu agwedda o’r casgliad celf.”

Fe osodir yr eitemau yn y droriau darganfod, pob un â gwrthrychau yn gysylltiedig â thema arbennig. Mae llyfryn ym mhob un sy’n galluogi’r defnyddiwr i archwilio’r gwrthrychau’n fanylach.

Ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol, gobeithia’r Amgueddfa ddenu nifer fawr o deuluoedd i’r Ganolfan Ddarganfod i drin gwrthrychau go iawn o fewn amgylchedd cyffyrddus. Mae rhaglen eang wedi’i chynllunio ar gyfer penwythnosau, gweithgareddau dros y gwyliau, sgyrsiau a theithiau, yn ogystal â gweithdai ar gyfer grwpiau addysgiadol gwahanol - pob un yn helpu i sbarduno dychymyg gyda thrin gwrthrychau fel y prif ffocws.

Ni fyddai’r ailddatblygiad wedi bod yn bosibl heb gymorth Sefydliad Clore Duffield. Dywedodd Sally Bacon, Cyfarwyddwraig Gweithredol y Sefydliad:

“Rydyn ni wedi ariannu nifer o leoliadau addysgiadol Clore ar draws y DU, ac rydyn ni’n falch iawn i weld oriel sydd wedi’i hadnewyddu fel y mae hi yn agor yng Nghymru. Bydd Canolfan Ddarganfod Clore yn lle gwych ar gyfer dysgu ymarferol, ac yn galluogi nifer o blant a phobl ifanc i archwilio casgliadau’r Amgueddfa’n agos, p’run ai ydyn nhw’n ymweld gyda’u hysgolion neu gyda’u teuluoedd.”

Mae Sefydliad Clore Duffield yn gorff sy’n creu grantiau a’n canolbwyntio ar gefnogi addysg, y celfyddydau, addysg amgueddfa ac oriel, hyfforddiant arweiniad diwylliannol, gofal iechyd a chymdeithasol a mwyhau bywyd Iddewig. Maent wedi canolbwyntio’n gryf ar gefnogi plant, pobl ifanc ac unigolion mwy bregus cymdeithas. Cadeirydd cyfredol y Sefydliad yw’r Feistres Vivien Duffield DBE.

Diolchodd Ceri Black y Sefydliad am ei nawdd:

“Gyda chymorth hael Sefydliad Clore, rydyn ni wedi gallu trawsnewid Oriel Ddarganfod Glanely – lleoliad sydd wedi dod ag ymwelwyr a’r Amgueddfa’n agosach erioed. Rydyn ni’n falch iawn o’r Ganolfan Ddarganfod newydd a gobeithiwn y bydd ein hymwelwyr cyson a newydd yn falch hefyd.”

Bydd teuluoedd ac ysgolion hefyd yn medru defnyddio Lle Cyfarfod Clore, sydd wedi’i chynllunio ar gyfer cyfarfodydd, i fwyta neu yn syml i gael brêc yn ystod eich ymweliad.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Y chwech arall yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae mynediad am ddim i’r Oriel Ddarganfod a phob un o'r amgueddfeydd, diolch i gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, croeso i chi gysylltu â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 2057 3185 / 07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@museumwales.ac.uk.