Datganiadau i'r Wasg

Haf cyfnewid-iol!

Ydych chi’n dyheu i weddnewid eich cwpwrdd dillad? Wel dyma’ch cyfle i ddilyn y ffasiwn ddiweddaraf sy’n sgubo drwy’r wlad. Ai dyma’r ateb i’n holl broblemau siopa? Y man cychwyn yw Cyfnewidfa Ddillad Fawr Abertawe.

Cynhelir y gyfnewidfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf. Dyma gyfle i chi gael gwared ar unrhyw eitemau diangen o’ch cwpwrdd dillad a bachu ar y cyfle i gael ambell beth newydd. Mae’n syml - cyfnewid rhywbeth nad ydych ei angen am rywbeth rydych yn dyheu amdano.

Bydd y paratoadau’n cychwyn am 12pm. Mae angen i bobl ddod â’u heitemau diangen a’u cyfnewid am dalebau. Bydd yr holl eitemau’n cael eu didoli a’u trefnu’n briodol. Yna am 6pm, bydd y drysau’n ail-agor a bydd y cyfnewid yn cychwyn. Bydd unrhyw eitemau sydd dros ben ar ddiwedd y noson yn cael eu rhoi i’r elusen canser Tenovus, i’w gwerthu yn eu siopau.

Bydd adloniant gan Women in Jazz, o Abertawe, a bydd caffi’r Amgueddfa ar agor am luniaeth.

Y Rheolau

1. Prynwch eich tocyn o flaen llaw

Mae tocynnau’n £7.50 y person ac ar gael yn http://www.greatswanseaclothesswap.co.uk/ neu o Ganolfan yr Amgylchedd, Stryd y Pier, Abertawe.

2. Gadael dillad (12-5pm, Dydd Sadwrn 24 Gorffennaf)

Dewch ag o leiaf tair eitem ddiangen sy’n lân a gwisgadwy o’ch cwpwrdd dillad y byddech yn falch i rywun arall eu cael - gallant gynnwys ategolion, dillad ac esgidiau ond dim gwisgoedd nofio a chlustdlysau.

3. Cyfnewid (6-8pm, Dydd Sadwrn 24 Gorffennaf)

Dewch â’ch talebau a bachu ar y cyfle i gael llond cwpwrdd o ddillad haf newydd!

Wrth gyfeirio at y gyfnewidfa sydd ar y gweill dywedodd Miranda Berry, Swyddog Digwyddiadau’r Amgueddfa: “Rydym yn falch tu hwnt ein bod yn cynnal y digwyddiad hwn yn yr Amgueddfa – dyma rywbeth newydd a gwahanol iawn i ni ag iddo nod cynaliadwy gwych. Bydd yn ddigwyddiad hwyliog.

“Mae’n ffordd ddelfrydol o ddiweddaru’r cwpwrdd dillad heb orfod gwario peth wmbredd mawr o arian. Bydd gweld hen ffefrynnau eich cwpwrdd dillad yn mynd i gartref da yn si?r o roi boddhad.’

Yn ôl Pennaeth Codi Arian Cymunedol Tenovus:“Mae Cyfnewidfa Ddillad Fawr Abertawe yn ffordd werth chweil o godi arian i helpu achosion da. Mae Tenovus yn hynod falch o fod ymysg y rhai fydd yn elwa yn sgil y digwyddiad. Bydd hyn ein helpu i ddarparu gwasanaethau canser i gleifion yr ardal leol trwy ein Tîm Cymorth Canser.”

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu gan Blind Lemon Events Cyf, Canolfan yr Amgylchedd, Abertawe a Thîm Ailgylchu Dinas a Sir Abertawe a Tenovus.

DIWEDD

Cyfle i dynnu lluniau (cyn neu ar ôl y digwyddiad), cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, ffoniwch Marie ar 01792 638970.

Am fwy o wybodaeth am Dîm Ailgylchu Dinas a Sir Abertawe ewch i http://www.swansea.gov.uk/recycling

Am fwy o wybodaeth am Ganolfan yr Amgylchedd ewch i http://www.environmentcentre.org.uk/

Am fwy o wybodaeth am Ddigwyddiadau Blind Lemon ewch i http://www.blindlemonevents.co.uk/

Am fwy o wybodaeth am Tenovus ewch i http://www.tenovus.org.uk/