Datganiadau i'r Wasg

Galw Miss Robeson!

Bydd Susan Robeson, wyres un o ymgyrchwyr hawliau sifil cyntaf America, Paul Robeson, yn ymweld â Big Pit ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf i siarad am berthynas ei thaid â Chymru ac i gyflwyno darllediad arbennig o’r ffilm ‘The Proud Valley’, a leolir mewn cymuned lofaol yng Nghymru.

Bydd gweithgareddau’r diwrnod yn cynnwys gweithdai ar gyfer pobl ifanc yn ystod y bore a chyflwyniad a dangosiad cyhoeddus o’r ffilm ‘The Proud Valley’ yn y prynhawn. Bydd Tayo Aluko yn ymuno â Susan Robeson, a bydd yn perfformio ei sioe un dyn ‘Call Mr Robeson!’ ym Mlaenafon ym mis Hydref. 

Mae yna gyfle i bobl ifanc 9 oed a throsodd greu stori llyfr comig am fywyd Paul Robeson dan arweiniad ei wyres. Bydd pob stori sy’n cael ei chreu yn ystod y project rhyngwladol hwn yn ymddangos yn yr oriel ar-lein yn www.comicbookproject.org. Ffoniwch (01495) 790311 i archebu lle.

Meddai Peter Walker, Ceidwad a Rheolwr y Pwll, Big Pit: “Dechreuodd perthynas Robeson â glowyr Cymru yn y 1920au pan gyfarfu â gr?p o lowyr o Gymru yn Llundain a oedd wedi cymryd rhan mewn gorymdaith yn erbyn tlodi. Gwelodd debygrwydd yn syth rhwng brwydr y dynion hyn a’r rhyfel dosbarth yn America. Perfformiodd mewn cyngerdd yng Nghaernarfon i godi arian i deuluoedd dioddefwyr trychineb Glofa Gresffordd ym 1934 hefyd.   

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu Susan Robeson a Tayo Aluko i’r digwyddiad arbennig hwn. Mae Tayo wedi teithio’r DU a’r Unol Daleithiau gyda’i sioe lwyddiannus, ac mae’n arwain y gwaith o addysgu cenhedlaeth newydd am frwydr Robeson.”

Mae’r digwyddiad yn rhan o ymweliad tair wythnos Miss Robeson â Chymru, dan ofal  Ymddiriedolaeth Paul Robeson Cymru, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd Tayo Aluko yn perfformio ei sioe un dyn yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon ddydd Sadwrn 23 Hydref. £10 yw pris tocyn ac maent ar gael o Ganolfan Ymwelwyr Treftadaeth y Byd drwy ffonio 01495 742333.