Datganiadau i'r Wasg

Dŵr a Thân: y daith anhygoel sydd nawr i'w gweld yn Amgueddfa'r Glannau

Mae stori anhygoel dau ddyn tân a rwyfodd 75 diwrnod 20 awr ac 17 munud ar draws yr Iwerydd nawr yn cael ei hadrodd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Ym mis Ionawr, bu Mike Arnold, 40 oed a Simon Evans, 39 oed yn cystadlu yn un o rasys anoddaf y byd – rhwyfo 3000 milltir heb gymorth, fel tîm o ddau, ar draws y Môr Iwerydd (yr un fath â theithio o Abertawe i Lundain ac yn ôl ddeg gwaith).

Gan ddechrau yn La Gomera yn yr Ynysoedd Dedwydd a gorffen yn Antigua yn India’r Gorllewin, cwblhaodd y ddau a’u cwch Pendovey Swift, Ras Rwyfo’r Iwerydd Woodvale yn llwyddiannus am 11.13am ddydd Sul 21 Mawrth. Roeddynt wedi cwblhau’r ras mewn 75 diwrnod, 20 awr ac 17 munud gan ddod yn wythfed yn y gystadleuaeth i barau ac yn yr unfed safle ar ddeg i gyd. 52 diwrnod a gymerodd y cwch cyflymaf, gyda Charlie Pitcher yn rhwyfo. Yr olaf i orffen oedd Sean McGowan, oedd ar y môr am 118 diwrnod.

Mae hanesion eu taith anturus yn cynnwys y rhwyfo ei hun, beth roeddynt yn ei fwyta a’i yfed a’u hyfforddiant yn rhan o arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gyda’r cwch - y Pendovey Swift – yn ganolbwynt i’r cyfan. Mae’r Pendovey Swift yn mesur 7.3 metr (24 troedfedd) o hyd a 2.4 metr o led (8 troedfedd), ac yn pwyso 500 cilogram (1,100 pwys) heb unrhyw lwyth a 1,200 cilogram (2,640 pwys) wedi’i lwytho. Mae paneli solar yn darparu trydan ar gyfer hidlydd d?r, golau a dyfeisiau cyfathrebu ac mae yna gaban bychan yn y starn (cefn) i gysgodi a lle storio yn y blaen ar gyfer bwyd a hanfodion eraill.

Mae’r arddangosfa’n bwrw golwg ar effaith y tywydd cyfnewidiol. Ar eu dyddiau gorau, roedd Mike a Simon yn llwyddo i rwyfo bron i 70 morfilltir ac ar y dyddiau gwaethaf, roedd y tywydd yn eu gwthio nôl pum morfilltir. Mae hefyd yn dangos sut iddynt lwyddo i lywio’u llwybr ar draws y cefnfor, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, a’r bywyd gwyllt anhygoel a welsant ar y daith yn cynnwys dolffiniaid, siarcod a morfilod.

Yn ystod eu dau fis ar y môr, llwyddodd Mike a Simon i ffilmio munudau cofiadwy a fydd yn cael eu dangos fel rhan o’r arddangosfa. Mae’r ffilm yn cyflwyno uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r daith gan roi cipolwg gwirioneddol o’r antur i ymwelwyr.

Meddai Simon: "Roedden ni’n gwybod ei bod hi am fod yn anodd, ond doedd yr holl hyfforddiant caled wnaethon ni cyn y ras ddim wedi ein paratoi ni o gwbl ar gyfer y boen a’r dioddef oedd o’n blaenau. Ond er i ni fynd trwy’r felin lawer gwaith roedd y cyfan yn werth chweil gan ein bod ni wedi cael profiadau anhygoel a gweld pethau rhyfeddol.”

Meddai Mike: "I roi’r cyfan yn ei gyd-destun, mae mwy o bobl wedi dringo i gopa Everest nag sydd wedi rhwyfo’n llwyddiannus ar draws yr Iwerydd. Roedd yn brofiad gwych a bythgofiadwy.”

Mae’r Swyddog Arddangosfeydd, Andrew Deathe wedi bod yn dilyn taith Mike a Simon ers y cychwyn cyntaf: “Bydd yn gyfle gwych i ymwelwyr weld sut llwyddodd y ddau i gwblhau’r daith. Roedd hi’n her heb ei hail – y prawf eithaf o gryfder a dyfalbarhad – ac rydym mor falch ein bod ni’n gallu dathlu’r cyfan yn yr Amgueddfa.”

Penderfynodd Mike, rheolwr gwyliadwriaeth yn Sgeti, a Simon, rheolwr criw yn Nhreforys, ymateb i’r her i godi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân, sy’n darparu gwasanaethau i weithwyr y gwasanaeth tân boed yn rhai sy’n gweithio ar hyn o bryd, wedi ymddeol neu wedi anafu.

Bydd arddangosfa D?r a Thân: Her Rhwyfo’r Iwerydd ym mhrif neuadd yr Amgueddfa o ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf i ddydd Sul 7 Tachwedd. Ynghyd â’r arddangosfa ei hun, bydd gwybodaeth am Elusen y Diffoddwyr Tân a gwybodaeth am ddiogelwch tân yn y cartref.

DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa neu drefnu i gael tynnu llun, ffoniwch Marie Szymonski ar 01792 638970.

Am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ewch i http://www.mawwfire.gov.uk/ neu ffoniwch Ceri Jackson, Rheolwr y Cyfryngau a Chyfathrebu ar 01267 226866.

I gael rhagor o wybodaeth am Ras Rhwyfo’r Iwerydd Woodvale ewch i: www.woodvale-challenge.com

Ewch i http://www.firefighterscharity.org.uki gael gwybodaeth am Elusen y Diffoddwyr Tân.

Gallwch gael mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru.

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe