Datganiadau i'r Wasg

Datgelu stori anhygoel Capten Scott

Ar 15 Mehefin 1910, ymgasglodd torf fawr gyffrous a swnllyd yng Nghaerdydd i ffarwelio â llong lwythog wrth iddi adael Doc Bute. Ei throi hi tua’r de oedd y Terra Nova – i Antarctica.

Gan mlynedd yn ddiweddarach, blaenddelw llong Capten Robert Falcon Scott, y Terra Nova, yw’r canolbwynt mewn arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Bydd yr arddangosfa O Gymoedd y De i Begwn y De: Cymru ac Antarctica i’w gweld tan ddydd Sul 10 Hydref 2010. Ar daith o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae’r arddangosfa’n cynnwys llawer o wrthrychau diddorol o daith Scott, gan gynnwys llythyrau a chardiau post gan dîm yr alldaith, rhwymyn cap morwr, pengwin ymerodrol wedi’i stwffio a thun o goco hyd yn oed!

Gallwch hefyd weld rhai o’r creigiau a gasglwyd gan ddaearegwyr ar yr alldaith, ar fenthyg gan Arolwg Antarctig Prydain.

Adroddir y stori hefyd drwy gyfres o luniau o’r Terra Nova, llofnodion a ffilmiau gwreiddiol o’r alldaith.

Meddai’r Curadur Tom Sharpe o Adran Ddaeareg Amgueddfa Cymru: “Blaenddelw’r Terra Nova, a symudwyd oddi ar y llong ym 1913 pan ddychwelodd y llong i Gaerdydd ac a roddwyd i’r Amgueddfa ym 1932, fydd canolbwynt yr arddangosfa, ac rydym yn hynod falch o allu ei harddangos gyda detholiad o wrthrychau eraill sy’n gysylltiedig â’r alldaith o’n casgliadau.

“Mae’r arddangosfa wedi dod â holl adrannau’r Amgueddfa ynghyd i roi cipolwg ar alldaith Scott, gan gynnwys pengwin o’r Adran S?oleg, creigiau Antarctig o’r Adran Ddaeareg, lluniau a pheintiadau o’r Adran Gelf a bloc o danwydd hyd yn oed o’n casgliadau Diwydiant."

Mae’r arddangosfa yn archwilio cysylltiadau eraill rhwng Cymru ac Antarctica hefyd – daearegwr o Sain Ffagan, teithiwr cudd o Gasnewydd a gwaith s?olegydd o Saint-y-brid, a ddaeth yn Gyfarwyddwr Amgueddfa Cymru maes o law.

Y stori dristaf o bosibl yw stori Is-swyddog Edgar Evans o Rosili ym Mro G?yr, un o’r tîm o bump a gyrhaeddodd Begwn y De gyda Scott ond a fu farw ar y daith adref.

Meddai Andrew Deathe, Swyddog Arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: “Yn yr oes hon o deithio rhyngwladol, mae’n hawdd anghofio y byddai’r daith hon i ben draw’r byd wedi bod yn gamp anhygoel a pheryglus. Mae adrodd hanes gorchestau gwych yn yr Amgueddfa yn gyffrous bob amser, ac rydym yn hynod falch o gysylltiadau cryf Cymru â’r anturiaeth hon."

DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd

Bydd yr arddangosfa O Gymoedd y De i Begwn y De: Cymru ac Antarctica i’w gweld tan ddydd Sul 10 Hydref 2010.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Marie Szymonski ar (01792) 683970.

Mae mynediad i safleoedd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gymorth Llywodraeth y Cynulliad.

Mae Amgueddfa Cymru yn rheoli saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru:

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe