Datganiadau i'r Wasg

Rhowch gynnig ar blethu rhaffau traddodiadol

Wnaethoch chi erioed feddwl sut mae rhaffau sgipio traddodiadol? Gallwch alw drai i Amgueddfa Genedlaethol y glannau drwy gydol yr wythnos i roi cynnig arni (1-4pm tan ddydd Gwener 13 Awst).

Mae’r gweithdy’n rhan o’n rhaglen weithgareddau i atal diflastod a diddori plant yn ystod y gwyliau a bydd cynorthwywyr orielau yn dangos sut i wneud rhaff sgipio drwy ddefnyddio copi cyfoes o beiriant gwneud rhaff traddodiadol sy’n dyddio o’r canol oesoedd.

“Mae’n weithdy gwych sy’n galluogi i deuluoedd gymryd rhan ac yn dangos sut y gwnned y rhaffau oedd mor bwysig i hanes diwydiannol a morwrol Cymru,” meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steff Mastoris. “Mae wedi profi’n boblogaidd yn barod gyda dros 1800 o ymwelwyr yn galw draw ddoe (Llun 9 Awst) wel yr arddangosfa ac i roi cynnig arni eu hunain!”

Bydd y gweithdai agored, rhad ac am ddim yn cael eu cynnal tan ddyd Gwener 13 Awst o 1-4pm.

Am fanylion pellach ewch i www.museumwales.ac.uk neu cysylltwch â 01792 638950.