Datganiadau i'r Wasg

Dyddiau Du John Cale

Dangosiad cyntaf Dyddiau Du John Cale ym Mhrydain a Chymru.

8 Hydref-7 Tachwedd 2010

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Mae gosodiad pum sgrîn John Cale Dyddiau Du yn symud o Fiennale Fenis rhif 53 lle cynrychiolodd Gymru i'w ymddangosiad cyntaf yng Nghymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe o fis Hydref ymlaen fel rhan o ?yl Cerddoriaeth a Chelfyddydau Abertawe. Daw hyn ar ôl iddo ymddangos yng ng?yl Mona Foma yn Awstralia yn gynnar yn 2010 a chyflwyniad o fersiwn fyw yng ng?yl Theater der Welt yn Essen yn yr Almaen.

Llwyfannwyd y ffilm sain sydd â phedair rhan ar draws pum sgrîn ar ynys Giudecca yn Fenis mewn hen fragdy. Gwnaed y ffilm mewn sawl lleoliad yng Nghymru gan gynnwys hen d? gwag y teulu a chan gydweithio â chôr a cherddorion ifainc.

Mae John Cale yn adnabyddus yn bennaf am ei gerddoriaeth gyda bandiau o ddyddiau'r Velvet Underground yn Efrog Newydd hyd heddiw. Mae ei waith yn adlewyrchu'r boen a'r grym o'i etifeddiaeth a'i gwrthddywediadau a'i hystyr iddo ef.

Comisiynwyd Dyddiau Du gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bu'r cydweithio ag Amgueddfa Cymru i deithio'r gwaith yn bosibl drwy gefnogaeth ychwanegol gan y Cynulliad a thrwy haelioni'r artist bydd modd ei gyflwyno i'r casgliad cenedlaethol. Ar ôl ei ddangos yn gyntaf yn Abertawe, dangosir y gwaith yn haf 2011 yn rhan o agoriad yr orielau celf estynedig newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa ledled Cymru gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae mynediad am ddim diolch i gefnogaeth y Cynulliad.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar (01792) 638970 neu marie.szymonski@amgueddfacymru.ac.uk