Datganiadau i'r Wasg

Arddangosiad cyntaf yng Nghymru o Dyddiau Du/Dark Days gan John Cale

O Fenis i Awstralia i’r Almaen a bellach i Abertawe...

Bydd Dyddiau Du/Dark Days, arddangosfa John Cale sydd wedi ennill clod rhyngwladol, yn cyrraedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe’r wythnos hon (Gwener 8 Hydref) yn dilyn ei hagoriad yn Arddangosfa Eilflwydd Celf Fenis 2009 – arddangosfa ddigyffelyb o gelf cyfoes.

Mae’r gosodiad pum sgrin, a ddangosir fel rhan o ?yl Gerddoriaeth a Chelfyddydau Abertawe, yn archwilio treftadaeth Gymreig Cale – yn cynnwys ffilm o’r Garnat, Rhydaman – yr haul yn gwawrio dros y t? y ganwyd ef ynddo – a’r Mynydd Du cyfagos.

Fe’i llwyfannwyd mewn hen fragdy ar ynys Giudecca yn Fenis, ac mae ar ffurf pedair episod ffilm sy’n para 46 munud. Fe’i ffilmiwyd mewn sawl lleoliad ar draws Cymru yn cynnwys cyn gartref y teulu yn y Garnant sydd bellach yn wag, ar y cyd â chôr a chwaraewyr cerddorfa ifanc.

Wedi agor yn Fenis, dangoswyd y gwaith yng ng?yl MONA FOMA yn Awstralia ar ddechrau 2010 a perfformiwyd fersiwn fyw yng Ng?yl Theater der Welt yn Essen yn yr Almaen.

Wrth siarad am Dyddiau Du/Dark Days yn cyrraedd Abertawe, dywedodd Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Steph Mastoris: "Rydym wrth ein bodd taw dyma’r lle cyntaf yng Nghymru y caiff gwaith arobryn Cale ei arddangos. Bydd yn brofiad unigryw i’n ymwelwyr gan gwmpasu diwydiannu, celf weledol a rhoi golwg ar ddiwydiant, diwylliant a threftadaeth Gymreig."

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Addysg Rhaglenni a Datblygu Amgueddfa Cymru, Mike Tooby: "Mae’r darn hwn yn siwrnai ryfeddol i John Cale. Mae’n galluogi iddo rannu â’i gynulleidfa y modd y mae cof a phrofiad yn ei gynorthwyo i ddod i delerau â rhyw fath o ddychwelyd adref. Bydd y ffaith bod y gwaith yn ymuno â chasgliadau cenedlaethol Amgueddfa Cymru yn galluogi iddo gael ei ddangos yn y dyfodol, i nifer o bobl eraill. Bydd yn tyfu’n gymhariaeth ar y cyd o deithiau personol i, ac o Gymru."

Dywedodd David Alston, Cyfarwyddwr Celf Cyngor Celfyddydau Cymru: "Fel Comisiynwyr y gwaith ar gyfer Arddangosfa Eilflwydd Celf Fenis , mae’n bleser gennym weithio yn awr ag Amgueddfa Cymru ar yr arddangosiad hwn o’r gwaith yng Nghymru. Mae Cale yn artist o bwys rhyngwladol. Mae wedi creu gwaith aml-gyfrwng grymus sy’n ymdriniaeth ddofn o’i deimladau personol am Gymru a’i etifeddiaeth, ar ffurf lluniau symudol, synau, geiriau a cherddoriaeth syfrdanol."

Drwy garedigrwydd hael yr artist a chefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, bu’n bosibl i Gyngor Celfyddydau Cymru gydweithio ag Amgueddfa Cymru i fynd â’r gwaith ar daith a’i gyflwyno i’r genedl.

Wedi cael ei ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, caiff ei arddangos yn haf 2011 fel rhan o agoriad yr orielau celf estynedig newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Am John Cale

Ganwyd John Cale ar 9 Mawrth 1942 ac mae’n gerddor, ysgrifennwr caneuon a chynhyrchydd cerddoriaeth sy’n bennaf adnabyddus am ei waith gyda cherddoriaeth roc, ond mae wedi gweithio mewn sawl steil wahanol dros y blynyddoedd.

Ganwyd Cale yn y Garnant yng Ngwm Aman oedd yn drwm dan ddylanwad diwydiant, a Chymraeg yw ei famiaith. Wedi canfod talent am chwarae’r piano, astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Llundain a theithio i UDA i barhau â’i hyfforddiant cerddorol, diolch i gymorth a dylanwad Aaron Copland.

Roedd Cale yn aelod gwreiddiol o’r Velvet Underground, ac mae’n amlwg fel gerddor, cyfansoddwr ar gyfer ffilmiau a chynhyrchydd sawl albwm. Mae Cale wedi arbrofi yn barhaus drwy gydol ei yrfa gan symud o un ffurf gelfyddydol i’r llall fel na ellir rhoi diffiniad union o’i ddull creadigol.

Bydd Dyddiau Du/Dark Days yn cael ei ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o ddydd Gwener 8 Hydref i dydd Sul 7 Tachwedd. Dangosir y gwaith yn ddyddiol o 10am-4pm.

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 683970.

Am ragor o wybodaeth am Gyngor Celfyddydau Cymru, cysylltwch â Sian James, Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau ar 029 2044 1344.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe