Datganiadau i'r Wasg

Enillwch Le yng Nghalendr Adfent 2011 Amgueddfa Cymru

Mae plant o ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cymryd rhan mewn gweithdai cartwnau yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre drwy gydol misoedd Ionawr a Chwefror i greu calendr Adfent 2011 Amgueddfa Cymru. Bydd y 25 o greadigaethau gorau’r plant yn cael eu dewis a’u datblygu i greu calendr gaiff ei werthu drwy Gymru.

Bydd y gweithdai yn cael eu harwain gan y cartwnydd Eric Heyman sydd a’i waith yn amrywio o lyfrau plant i wawdluniau a chreu logos. Mae e eisioes wedi creu cartwnau ar gyfer Amgueddfa Wlân Cymru i ddangos y broses o droi gwlân yn ffabrig.

 Bydd Eric Heyman yn ysbrydoli’r plant i greu eu cartwnau eu hunain a bydd y calendr Adfent terfynol yn cael ei werthu drwy Gymru yn saith safle’r Amgueddfa Genedlaethol – o’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion. Bydd y 25 creadigaeth orau yn cael eu dewis gan Eric Heyman ar ddiwedd Chwefror.

 Dywedodd Joanna Thomas, Swyddog Addysg Amgueddfa Wlân Cymru: “Mae’n gyfle gwych i’r plant sy’n cymryd rhan yn y gweithdai i weithio gyda chartwnydd mor brofiadol a gweld eu gwaith ar silffoedd siopau ledled Cymru.”

 DIWEDD

 Heledd Gwyndaf Dafis, Swyddog Cyfathrebu 01559 370929 heledd.gwyndaf@museumwales.ac.uk