Datganiadau i'r Wasg

Gwragedd Gwych Cymru: dathliad arbennig

Bydd digwyddiad arbennig i ddathlu canmlwyddiant Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Mawrth 8 Mawrth 2011.

Mae Gwragedd Gwych Cymru yn dathlu llwyddiannau gwragedd yn wyneb newid agwedd tuag at gydraddoldeb rhyw. Mae’n talu gwrogaeth i unigolion a chwaraeodd rôl hanfodol mewn datblygiad yng Nghymru a’r byd er gwaethaf rhagfarnau a rhwystrau eu hoes.

Bydd yn datgelu rhai o’r brwydrau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol mae menywod wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd yn cynnwys yr hawl i bleidleisio, cydraddoldeb cyflog a’u cyfraniad i wleidyddiaeth.

Bydd Gwragedd Gwych Cymru yn cynnwys ffotograffau, erthyglau newyddion, memorabilia ac arteffactau o amryw sefydliadau yn cynnwys Soroptimist International, Chwarae Teg, Mothers’ Union, Girls’ Friendly Society, GENCAS (canolfan ymchwil i ryw mewn diwylliant a chymdeithas ym Mhrifysgol Abertawe), Swansea’s Women Centre, MEWN (Rhwydwaith Gwragedd Lleiafrifoedd Ethnig Cymru), Girlguiding UK a Women4Resources.

Fel rhan o’r arddangosfa, bydda adran addysg yr Amgueddfa yn cynnig cyfres o weithdai i fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru a Lefel A i’w helpu i ddeall rôl bwysig gwragedd mewn diwydiant. Bydd gweithgareddau yn cynnwys taith wedi’i hysbrydoli gan Gwragedd Gwych Cymru, gweithdy gwneud baneri heddwch a chyfle i ddysgu beth fyddai gwragedd yn ei wneud yn y gweithle a’u rôl yn y cartref dros y 100 mlynedd diwethaf. Bydd y plant yn dysgu am ymgyrch Undeb y Mamau Bye Buy Childhood, sydd yn gwneud i ni feddwl am fasnacheiddio a rhywioli cynyddol plentyndod.

Bydd cyfle hefyd i’r sawl sy’n mynychu ddysgu sut i sefydlu eu busnes eu hunain yn y gweithdy Archwilio Menter am 10am dan arweiniad yr asiantaeth datblygiad economaidd i wragedd, Chwarae Teg. Ei nod fydd cynorthwyo gwragedd i sylwi ar gyfleon busnes i’w hunain neu fel rhan o fenter gymdeithasol.

Wrth siarad am y diwrnod, dywedodd un o’r trefnwyr Angela Ball: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnal yr arddangosfa. Mae’n gyfle gwych i’r cyhoedd ddysgu mwy am rôl hynod bwysig gwragedd yng Nghymru a’r byd.

“Mae menywod yng Nghymru wedi cyflawni mewn amryw ffyrdd, yn unigol ac wrth gydweithio, ac mae angen i ni ddathlu hyn. Rydyn ni’n ddyledus i Lywodraeth Cynulliad Cymru am ddarparu nawdd i gynnal yr arddangosfa ac edrychwn ymlaen at weithio gyda sefydliadau gwragedd eraill ar y diwrnod.”

“Mae mor bwysig cydnabod yr effaith a’r llwyddiannau a wnaed gan wragedd yn ein cymdeithas erioed, ond yn enwedig yn ystod y 100 mlynedd diwethaf a bellach yn yr 21ain ganrif,” meddai’r Curadur Diwydiant Modern a Chyfoes, Ian Smith. “Rydyn ni’n hapus iawn i gynnal y dathliad hwn a fydd yn ddiwrnod gwych gyda nifer o wahanol sefydliadau yn dod ynghyd. Gobeithio y gallwn ni ei droi yn ddigwyddiad blynyddol.”

Bydd Women in Jazz yn darparu adloniant ar y diwrnod ac aelodau o Soroptimist International yn cefnogi ymgyrch ryngwladol Join Me on the Bridge gan Women for Women International (WWI) drwy gynnal rali ar bont Ffordd Ystumllwynarth am 12pm.

Nodiadau i’r golygydd

Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu sesiwn dynnu lluniau, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Am ragor o wybodaeth am Soroptimist International, cysylltwch ag Angela Ball ar 01792 412701

Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Join me on the Bridge ewch i http://www.womenforwomen.org/bridge

Am ragor o wybodaeth am Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod ewch i http://www.internationalwomensday.com

Am ragor o wybodaeth am Chwarae Teg ewch i www.chwaraeteg.com. Am ragor o wybodaeth am y gweithdy archwilio menter neu weithdai yn yr ardal yn y dyfodol e-bostiwch jane.nyhan@chwaraeteg.com neu ffoniwch 029 2047 8900.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru.

· Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

· Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

· Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

· Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

· Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

· Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

· Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe