Datganiadau i'r Wasg
Ffair Briodas y Glannau yn paratoi i ysbrydoli priodferched y dyfodol
Dyddiad:
2011-03-01Dysgwch fwy am briodasau y Sul hwn, 6 Mawrth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wrth inni baratoi i gynnal ein ffair briodas ein hunain o 11am.
Bydd Ffair Briodas y Glannau yn rhoi cyfle i gyplau sy’n paratoi i briodi archwilio’r lleoliad cynnes a chyfareddol hwn ar gyfer priodasau sifil a derbyniadau, yn ogystal â chyfarfod ag amryw o arbenigwyr priodasau, yn cynnwys ffotograffwyr, hurwyr ceir, teilwriaid gwisgoedd priodas, addurnwyr teisennau a threfnwyr blodau.
“Drwy roi cyfle i gyplau lleol gyfarfod ag amrywiaeth eang o gyflenwyr mewn un diwrnod, gobeithiwn wneud trefnu’r diwrnod mawr yn broses ychydig yn haws. Bydd ein trefnwyr priodasau ni hefyd ar gael i’ch harwain drwy’r broses ac i ddangos beth sydd gan y lleoliad i’w gynnig,” meddai’r trefnydd Karen James.
Bydd y digwyddiad hwn sydd â mynediad am ddim yn cael ei gynnal o 11am i 4pm a bydd pawb sy’n mynychu yn gadael gyda bag anrhegion.
Caiff Ffair Briodas y Glannau ei threfnu ar y cyd â Val Slater Wedding Fayres a Digby Trout Restaurants.
Bydd Arddangoswyr yn y Fair yn cynnwys:
• Caricatures by Gremlyn
• Bad Little Bride Photography
• Heavenly Beauty Salon
• Littledragon Baking
Am ragor o wybodaeth am Val Slater Wedding Fayres ewch i www.valslaterexhibitions.co.uk
Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.