Datganiadau i'r Wasg

Cyfnewid Llyfrau ar y Glannau

Yn glanhau’r t?? Am newid eich casgliad llyfrau? Dewch draw i Gyfnewid Llyfrau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’r penwythnos hwn (2 a 3 Ebrill).

Mae’r digwyddiad wedi cael ei drefnu ar y cyd â Siop Lyfrau Oxfam a’r Ganolfan Amgylcheddol, a bydd yn gyfle i ymwelwyr gael gwared â llyfrau diangen a chanfod llyfrau o ddiddordeb yn eu lle – a’r cyfan am ddim!

“Dyma’r tro cyntaf i’r Amgueddfa gynnal sesiwn gyfnewid llyfrau ac rydyn ni’n gobeithio taw dyma fydd y cyntaf o nifer,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau, Miranda Berry. “Mae’n ffordd wych o arbed yr amgylchedd, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn llawer o hwyl hefyd.”

Dywedodd Phil Broadhurst, Rheolwr siop lyfrau a cherddoriaeth Oxfam yn Stryd y Castell, Abertawe: “Drwy ein siopau, mae OXFAM wastad yn eiddgar i annog pobl i feddwl am ailgylchu ac ailddefnyddio, felly mae medru mynd â’r neges allan i’r gymuned gyda digwyddiad fel hyn yn beth gwych.”

Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i alw draw gyda rhai llyfrau wedi’i darllen, mewn cyflwr da, i’w cyfnewid am docynnau cyfnewid – dylai pob llyfr fod mewn cyflwr darllenadwy a bydd system tocyn llyfr-am-lyfr yn cael ei gweithredu.

Bydd Gweithdy Crefft Llyfrau i deuluoedd hefyd yn cael ei gynnal rhwng 1pm a 4pm ar y ddau ddyddiad yn rhoi cyfle i droi hen lyfrau rhacs yn greadigaethau crefftus.

• Bydd y sesiwn Cyfnewid Llyfrau yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 2 a dydd Sul 3 Ebrill rhwng 11am a 4pm.

• Bydd y Gweithdy Crefft Llyfrau, sy’n weithdy galw draw, yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 2 a dydd Sul 3 Ebrill rhwng 1 a 4pm.

• Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.