Datganiadau i'r Wasg

Cyfrannwch at fioamrywiaeth drwy edrych yn fanylach ar eich gardd

Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol Bioamrywiaeth 2011, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal diwrnod o weithgareddau hanes natur i’r teulu cyfan ar ddydd Sadwrn 21 Mai, o 10am-4pm.

Bioamrywiaeth yw bywyd; Bioamrywiaeth yw’n bywyd ni. Bydd gweithgareddau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnwys ymlusgiaid ac ystlumod byw, arolwg bywyd gwyllt yr ardd, gwylio hebogiaid tramor ar y nyth-gamera, a dysgu am bwysigrwydd cadw a defnyddio bywyd ar y ddaear mewn modd cynaliadwy gyda chymorth ein hymwelwyr.

Yn dilyn Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth 2010 y llynedd, mae sefydliadau ar draws Cymru, o elusennau ac amgueddfeydd i grwpiau lleol, wedi cydweithio eto eleni i barhau i godi ymwybyddiaeth o warchod bioamrywiaeth yng Nghymru a gwarchod yr amrywiaeth anhygoel o fywyd ar ein planed.

Mae bioamrywiaeth yn rheoleiddio ein cyflenwad aer a d?r, yn ailgylchu maetholynnau i gynhyrchu pridd ffrwythlon, yn peillio ein cnydau a’n coed ffrwythau ac yn darparu bwyd, tanwydd a deunyddiau adeiladu. Rydyn ni’n dibynnu ar fioamrywiaeth ac felly mae’n hanfodol ein bod ni’n deall sut mae’n gweithio, fel y gallwn ni wneud y penderfyniadau cywir wrth geisio’i gynnal.

• Bydd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yma drwy’r diwrnod i esbonio beth yn union yw bioamrywiaeth

• Bydd Cyngor Caerdydd yn gofyn i ymwelwyr gymryd rhan yn arolwg Bywyd Gwyllt yr Ardd Partneriaethau Bioamrywiaeth Caerdydd, gyda’r nod o ddysgu popeth am fywyd gwyllt cudd Caerdydd. Cymerwch ran drwy sôn wrthyn nhw am yr holl fywyd gwyllt sydd i’w weld yn eich gardd.

• Bydd Gr?p Amffibiaid ac Ymlusgiaid Gwent yn hybu cadwraeth pob amffibiad ac ymlusgiad brodorol a’u cynefinoedd yn cynnwys rhai nadroedd gwyllt!

• Dewch i gyfarfod gwyddonwyr Amgueddfa Cymru a dysgu am eu hymchwil a sut fyddan nhw’n gofalu am, ac yn cofnodi’r gwrthrychau yn eu gofal, yn cynnwys rhywogaethau newydd.

• Cymrwch ran mewn cwis natur, gêm moch coed a chynrhon y blawd a dysgwch fwy am gadwraeth bywyd gwyllt gyda Gr?p Diddordeb Cymunedol Eco-explore

• Gwelwch ystlumod byw a dysgu mwy am gadwraeth ystlumod a’u cynefin gyda Gr?p Ystlumod y Cymoedd

• Dysgwch pam taw bioamrywiaeth yw sylfaen bywyd gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru a chodi un o’u llyfrynnau poblogaidd cyn iddyn nhw gyd fynd!

• Bydd RSPB Cymru yma i ddangos yr hebogiaid tramor sy’n nythu ar D?r Cloc Neuadd y Dref drwy eu telesgopau a’u nyth-gamera

Dywedodd Dr Deborah Spillards o Amgueddfa Genedlaethol Ceardydd,

“Yn dilyn llwyddiant Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth y llynedd, rwyf wrth fy modd bod sefydliadau yng Nghymru yn parhau i gydweithio i berswadio mwy o bobl i ystyried bioamrywiaeth. Bydd y digwyddiad diwrnod yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gyfle i ddysgu mwy am fioamrywiaeth gyfoethog Cymru a sut allwch chi gyfrannu yn lleol.”