Datganiadau i'r Wasg

Y Glannau'n paratoi at Eisteddfod yr Urdd!

Mae g?yl ieuenctid gystadleuol fwyaf Ewrop ar ei ffordd i Abertawe, a bydd Amgueddfa Cymru yno i gynnig gweithgareddau a digwyddiadau llawn hwyl i’r teulu cyfan.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fydd yng ngofal y stondin, lle bydd cyfle i ymwelwyr droi eu llaw at grefftau, cydganu, cyfarfod cymeriadau gwisg ffansi ac eistedd mewn Sinclair C5.

Ar ddydd Llun g?yl y banc (30 Mai), dewch i weld beth wnaeth Tedi Twt a Doli Glwt ei ganfod yn yr Amgueddfa ac ymunwch yn eu hanturiaethau yn cynnwys amser storia am 10.30am, 12pm, 2pm a 3.30pm. Gall athrawon a rhieni hefyd ddysgu sut mae’r Amgueddfa yn hybu dysgu Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen.

Ceir cyflym fydd pwnc dydd Mawrth (31 Mai) gyda gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan Brifysgol Abertawe a thîm Canolfan Addysg Bloodhound Cymru sydd wedi cynllunio ‘r Car Uwchsonig 1000mya Bloodhound.

Bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn ymuno â ni ar ddydd Mercher (1 Mehefin). Galwch draw i ddysgu mwy am gefn gwald a thirlun diwydiannol yn ogystal â pa fywyd gwyllt sydd i’w weld yng Nghors Crymlyn gerllaw. Ar dydd Iau (2 Mehefin) a dydd Gwener (3 Mehefin), beth am gynorthwyo’r artist Dan McCabe i greu collage copr create a bling copper collage inspired by past local industry and copper objects.

Cofiwch gadw llygad am Mr Trevithick a ddyfeisiodd yr injan stêm gyntaf i redeg ar gledrau. Bydd yn teithio o amgylch y Maes ar ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener yn eich hatgoffa y bydd ei injan yn codi stêm yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar dydd Sul 5 Mehefin o 12pm.

“Rydyn ni wrth ein bodd o gael cyfle i redeg stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni,” meddai Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Steph Mastoris. “Mae digon o weithgareddau wedi’u trefnu i ddiddanu teuluoedd drwy gydol yr wythnos ac rydyn ni’n edrych ymlaen i groesawu’r cannoedd o bobl ifanc o bob cwr o Gymru fydd yn cymryd rhan.

“Mae’r digwyddiad hefyd yn gyfle gwych i bobl ddysgu am Amgueddfa Cymru a’i rôl bwysig yn addysgu pobl ofanc am hanes diwydiannol Cymru a’i dyfodol blaengar.”

Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Rydyn ni wrth ein bodd y bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gyda ni ar y Maes eleni gyda rhaglen wych o weithgareddau i ymwelwyr. Mae’n grêt i weld sefydliad fel yr Amgueddfa yn defnyddio’r Eisteddfod fel ffenest siop ar gyfer eu gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn ac rwy’n edrych ymaen i weld rhai o’r arddangosfeydd yn ystod yr wythnos.”

Bydd Amgueddfa Cymru hefyd yn ymweld â digwyddiadau eraill dros yr haf yn cynnwys G?yl Lenyddol y Gelli o 26 Mai i 5 Mehefin, y Sioe Frenhinol o 18-21 Mehefin a’r Eisteddfod Genedlaethol o 30 Gorffennaf i 6 Awst.

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Am ragor o fanylion am Eisteddfod yr Urdd ewch i www.urdd.org

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

• Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe