Datganiadau i'r Wasg

Local History Live! Yn glanio yn y Glannau

Galwch draw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’r penwythnos hwn (dydd Sul 3 Mehefin, 11am-4pm) i fwynhau Local History Live!

Cangen Abertawe o’r Gymdeithas Hanesyddol sydd wedi trefnu’r diwrnod, a bydd pwyslais y diwrnod ar arfer ymchwil hanes lleol, gydag astudiaethau achos lleol fel esiamplau. Bydd y digwyddiadau yn cynnwys sgyrsiau traddodiadol yn ogystal â thrafodaeth banel rhwng Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a ffigurau blaenllaw o brojectau lleol.

Bydd y testunau a’r cyfranwyr yn cynnwys Hanes Gwyddoniaeth yn Abertawe, Project Sandfields, Cymdeithas Hanesyddol Ystumllwynarth, ffotograffau a ffotograffiaeth, Bryngold Books, y Robin Goch (a adeiladwyd gan y peiriannydd o Gaerdydd Charles Horace Watkins ym 1907 ac sy’n un o’r esiamplau prin o awyren ymarferol amatur cyn 1914 sy’n dal i fodoli) a llawer mwy.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd John Ashley o’r Gymdeithas Hanesyddol: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i hyrwyddo Abertawe fel ardal sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil hanes lleol. Bydd cyfle i bawb gyfarfod a gwrando ar rai o arbenigwyr pennaf y wlad.”

Yn ogystal â Local History Live, adael digon o amser i fwynhau digwyddiadau eraill yn yr Amgueddfa ar y diwrnod yn cynnwys ffair grefftau a pherfformiad gan Cancer Challenge Singers am 2.30pm.