Datganiadau i'r Wasg

Byd Copr Cymru yn cael ei lansio yn y Glannau

Bydd rhagolwg o arddangosfa newydd sbon Byd Copr Cymru yn cael ei gynnal heddiw, dydd Iau 30 Mehefin yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Bydd yr arddangosfa’n agor yn swyddogol ddydd Sadwrn nesaf (2 Gorffennaf) ac yn datgelu pwysigrwydd hanesyddol diwydiant copr Cymru, ei dreftadaeth, y cysylltiadau rhyngwladol ddaeth yn ei sgil a lle copr yn ein bywydau heddiw.

Mae Amgueddfa Cymru yn gosod yr arddangosfa ar y cyd â Phrifysgol Abertawe fel rhan o broject ehangach y brifysgol a ariennir gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) o’r enw Hanes, treftadaeth ac adfywio: copr Cymreig yn fyd eang ac yn lleol.

Wrth siarad am y project, dywedodd Huw Bowen, Athro Hanes Fodern ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym yn tueddu i feddwl bod hanes Cymru wedi’i ysgrifennu mewn llwch glo a haearn a dur. Ond mewn gwirionedd, copr sydd wrth wraidd datblygiad Cymru fel cenedl ddiwydiannol.

“Mae’r project yn adeiladu ar sylfaen gref o gydweithio rhwng y Brifysgol a’r Amgueddfa, ac wrth gynllunio a datblygu’r arddangosfa fawr hon rydym wedi medru cyfuno’n arbenigedd ymchwilio mewn ffyrdd newydd a chreadigol. Diolch i hyn, bydd yr arddangosiadau a’r wybodaeth a gyflwynir yn cyflwyno golwg newydd ar hanes y diwydiant trwm cyntaf oedd yn wirioneddol fyd eang, diwydiant oedd a’i ganolbwynt yng Nghwm Tawe Isaf.”

Wrth sôn am groesawu arddangosfa Byd Copr Cymru, dywedodd Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Cymru: "Rydyn ni’n falch iawn o gael gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i fod yn wyneb cyhoeddus y project pwysig hwn. Mae’r arddangosfa yn rhoi golwg bwysig ar agwedd bwysig o hanes diwydiant yng Nghymru. Fel arfer, rydyn ni wedi paratoi cyfres o sgyrsiau a gweithgareddau cyffrous yn ymwneud â’r arddangosfa fel y gall pobl archwilio’r pwnc o wahanol safbwyntiau hanesyddol a chreadigol.”

Bydd yr arddangosfa yn cael ei hategu drwy gydol y misoedd nesaf gan raglen lawn o ddigwyddiadau, sgyrsiau a theithiau.

Mae’r artist Jill Randall wedi bod yn gweithio ers sawl blwyddyn ym mwyngloddiau gwag Mynydd Parys ar Ynys Môn, a bydd yn dangos – drwy gyfrwng un diwrnod astudio – sut y defnyddiodd y mwynau a’r d?r yn y mwyngloddiau i staenio dalennau anferth o bapur i greu delweddau haniaethol i fapio’r gweithiau tanddaearol. 

Bydd Teithiau Copr yn archwilio gweddillion diddorol gwaith copr White Rock ar lan Ddwyreiniol Afon Tawe (Sadwrn 6 Awst), a gweithfeydd copr Hafod a Morfa ar y lan Orllewinol (Sadwrn 20 Awst).

Bydd Gweithdai Teuluol yn ymchwilio i nodweddion copr ac egwyddorion diddorol electroplatio copr, a bydd cyfres o sgyrsiau thematig yn canolbwyntio ar sawl agwedd o’r arddangosfa yn cynnwys Teulu Vivian: Adeiladwyr yr Abertawe Fodern a I Chile ac yn ôl am Fwyn Copr sy’n datgelu hanes mordaith Syr William Reardon Smith ar gwch gwaelod copr ym 1872.

Am ragor o wybodaeth am Broject ESRC dan arweiniad Prifysgol Abertawe ewch i www.welshcopper.org.uk

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638950.

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau ynghlwm â’r arddangosfa, ewch i www.amgueddfacyrmu.ac.uk neu cysylltwch â (01792) 638950.