Datganiadau i'r Wasg

Pwyslais peirianneg yn Big Pit

Mae Big Pit yn cyflwyno cynllun prentisiaeth newydd gyda’r nod o addysgu cenhedlaeth newydd o staff ar gyfer yr amgueddfa lofaol fyd-enwog.

Nod y cynllun yn yr amgueddfa arobryn yw denu peirianwyr uchelgeisiol sydd am arbenigo mewn peirianneg fecanyddol a thrydanol.

Mae’r diwydiant mwyngloddio yn y DU wedi bod yn ddibynnol ar staff wedi’u hyfforddi gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol am yr 20 mlynedd diwethaf, ond gyda dyfodol mwyngloddio glo yn edrych yn addawol, mae perchnogion pyllau yn agor drysau i newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant. Mae Big Pit yn cynnig yr hyfforddiant mewn partneriaeth â choleg G?yr Abertawe, lle bydd prentisiaid yn astudio tuag at ennill cymwysterau ffurfiol.

“Bydd y prentisiaid yn rhannu eu hamser rhwng astudiaethau academaidd a gwaith ymarferol yma yn Big Pit, gan ddysgu am agweddau peirianneg a thwristiaeth ein gwaith.” dywedodd Peter Walker, Rheolwr Big Pit. “Tua diwedd eu prentisiaeth byddant yn derbyn hyfforddiant achub glofaol ac yn ymuno â staff presennol sy’n gweithio’n rhan amser gyda’r Gwasanaeth Achub Glofaol.

“Mae cenedlaethau o w?r de Cymru wedi gweithio yn y pyllau glo, ac rydyn ni’n falch o fod ynghlwm â hyfforddi’r genhedlaeth nesaf.”

Mae Richard Phillips, 48, wedi gweithio fel Trydanwr Glofaol Dosbarth 1af yn Big Pit ers dwy flynedd: “Roedd y brentisiaeth wreiddiol gyda’r Bwrdd Glo Cenedlaethol yn un rhagorol, ond mae’r cynllun newydd yn edrych yn well fyth. Petai gen i fab neu ferch oedd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes peirianneg baswn i’n bendant yn argymell iddyn nhw roi cynnig arni; ac mae gweithio yn Big Bit yn brofiad gwerth chweil. Mae’n waith llawn sialensiau technegol ac rydych chi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, ond doeddwn i byth yn disgwyl y byddai cyfarfod ymwelwyr o bob cwr o’r byd a’u cynorthwyo yn brofiad mor bleserus.”

“Mae’n bleser gan Goleg G?yr Abertawe gydweithio â Big Pit i gynnig y cyfle prentisiaeth hwn,” meddai’r Rheolwr Ardal Addysg Peirianneg Dave Cranmer. “Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld gwir dwf yn y diwydiant glofaol lleol ac mae’n fraint gennym chware rhan flaenllaw yn y rhaglen hyfforddi newydd hon.”