Datganiadau i'r Wasg

Hwyl Penwythnos Môr-Ladron yr Amgueddfa ar y gorwel

Bydd digon o hwyl i’r teulu cyfan y penwythnos hwn yn nathliad dau ddiwrnod Môr-Ladron Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Cofiwch deithio’n brydlon i weld y gweithgareddau morol yn y ddinas rhwng 11am a 4pm dydd Sadwrn a dydd Sul nesaf (6 a 7 Awst).

Beth am ddefnyddio peiriant creu rhaffau o’r 19eg ganrif, creu bandana, patsh llygad neu gist drysor môr-leidr neu wrando ar straeon anturus gan fôr-leidr yr Amgueddfa ei hun.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys taith drysor i’r teulu i chwilio am wyau parot lliwgar, prin a pherfformiadau traddodiadol o ganeuon a cherddoriaeth sianti. Cofiwch ymuno â’r morwyr Mary MacGreagor ac Annie Greengrass wrth iddyn nhw ddod â’u gorffennol yn fyw i ni drwy gyfrwng hen fapiau llychlyd a chaneuon direidus mewn sioe bypedau arbennig.

Wrth siarad am y digwyddiad i ddod, dywedodd y Rheolwr Marchnata, Marie Szymonski: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiadau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y penwythnos. Bydd rhywbeth at ddant y teulu i gyd a’r cyfan am ddim.”

Mae hyn i gyda ar ben yr arddangosiadau oriel parhaol a’r arddangosfeydd dros dro, yn cynnwys Byd Copr Cymru a Golden Venture: Artist Preswyl yng Ngwaith Copr Mynydd Parys. Bydd hi’n ddiwrnod i’r brenin yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y penwythnos hwn.