Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn y Mardi Gras

Bydd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Mardi Gras LHDT Caerdydd-Cymru ar Gaeau Coopers, Caerdydd ar ddydd Sadwrn 3 Medi 2011.

 

Thema’r stondin eleni fydd ‘Be Yourself’ a bydd cyfle i ymwelwyr i weld y Ddresel Gymunedol a gasglwyd gan Gay Ammanford ar gyfer Mis Hanes LHDT, ac sy’n cael ei ddangos ar hyn o bryd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Roedd y gweithgaredd ‘celf ar fag cynfas’ yn boblogaidd iawn llynedd, a bydd yn dychwelyd eto eleni lle gall ymwelwyr ddylunio eu gwaith celf eu hunain i’w roi ar fag cynfas yn ogystal â rhannu eu barn am Amcanion Cydraddoldeb Amgueddfa Cymru.

Dywedodd Claire Thomas, Swyddog Amrywiaeth Amgueddfa Cymru, "Mae presenoldeb Amgueddfa Cymru yn y Mardi Gras yn rhan o’n gwaith ehangach i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd o’n gwaith. Roedd hi’n fenter llwyddiannus a llawn hwyl y llynedd a gobeithiwn y bydd ymwelwyr yn dod at ein stondin i ddysgu mwy am ein gwaith."