Datganiadau i'r Wasg

Drws agored yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

I ddathlu’r Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd eleni, bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor ei drysau dros y penwythnos, gan eich gwahodd i gael golwg tu ôl i’r llenni ar un o amgueddfeydd mwyaf newydd ac arloesol Cymru.

 

 

Ar ddydd Sadwrn 17 Medi am 12.30pm a 2.30pm, bydd cyfle i ymwelwyr gael golwg fanylach ar Amgueddfa Genedlaethol y Glannau drwy gyfrwng taith dan arweiniad Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris.

Agorodd yr Amgueddfa ym mis Hydref 2005, ac fe’i dyluniwyd gan Wilkinson Eyre, penseiri sydd wedi ennill gwobrwyau. Mae’n cyfuno adeilad cofrestredig Gradd II y warws, cyn gartref Amgueddfa Forwrol a Diwydiannol Abertawe, ac adeilad newydd sbon o wydr a llechi Cymreig.

Bydd y teithiau yn cael eu cynnal am 12.30pm a 2.30pm. Does dim angen archebu lle ac mae croeso i bawb.