Datganiadau i'r Wasg

'Wales Breaks its Silence...' yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Oeddech chi’n gwybod am hanes trasig suddo’r SS Arandora Star ym 1940?

Oeddech chi’n gwybod bod 53 o Gymry o dras Eidalaidd wedi colli eu bywydau ar y llong? Roeddent yn cael eu trosglwyddo i garchardai rhyfel yng Nghanada dan orchymyn Llywodraeth Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Oeddech chi’n gwybod bod arddangosfa bellach ar agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy’n adrodd hanes rhai o’r gw?r a foddodd ac a oroesodd y drychineb?

Bydd hanes trasig yr SS Arandora Star yn dod yn fyw mewn arddangosfa fechan o’r enw Wales Breaks its Silence…From Memories to Memorial tan ddydd Sul 30 Hydref.

Roedd yr Arandora Star yn cludo cannoedd o garcharorion o wahanol wledydd i Ganada, ond cafodd ei suddo gan U-boat a’i thorpedo gan achosi i dros 800 golli eu bywydau. Cafodd y carcharorion a oroesodd eu cludo yn ôl i’r DU a’u hanfon yn syth i garchardai rhyfel yn niffeithwch Awstralia.

Crëwyd yr arddangosfa gan Arandora Star Memorial Fund in Wales, ac mae’n ailadrodd yr hanes coll hwn. Bydd casgliad o ffotograffau yn adlewyrchu peth o hanes yr Eidalwyr a ymsefydlodd yn ne Cymru, ynghyd â hanesion personol rhai a oroesodd ac erthyglau papur newydd angerddol yn rhoi manylion y gw?r a foddodd.

Bydd sawl gwrthrych yn cael eu harddangos, er enghraifft, model mawr o’r SS Arandora Star – cyn iddi gael ei phaentio yn llwyd ar gyfer ei gwaith yn y rhyfel – sydd ar fenthyg gan Mr George Hill of Swansea. Bu farw tad-cu Mr Hill, Michele Di Marco, ar yr Arandora Star.

Bydd cerflun teracota arbennig iawn o Mair yn dal yr Arandora Star gan yr artist Susanna Ciccotti i’w weld. Creodd y gwaith ar gyfer Cofeb yr Arandora Star yn Eglwys Gadeiriol Fetropolitan Dewi Sant yng Nghaerdydd. Ffrwydrodd y darn hwn yn yr odyn gan dorri’r llong yn ddwy – sy’n adlais rhyfedd o ddinistr yr Arandora Star ei hun – ond mae wedi cael ei adfer gan yr artist bellach.

Mae Theatr na n'Og wedi cynhyrchu drama ar gyfer ysgolion i gyd-fynd â’r arddangosfa, sydd wedi’i seilio ar brofiadau teulu Eidalaidd yn byw yng Nghymru. Mae’n dilyn hanes Lina, sy’n gweld ei thad yn cael ei arestio a’i lusgo o’u caffi a’i roi ar yr Arandora Star gyda 700 Eidalwr arall. Mae’r stori wedi’i seilio ar stori wir ac yn dilyn Lina wrth iddi geisio canfod y gwir a chanfod ei thad – mae’n cael ei berfformio ar hyn o bryd yn Theatr Dylan Thomas yn Abertawe.

Wrth siarad am yr arddangosfa dywedodd y curadur, Paulette Pelosi, ac aelod o’r Arandora Star Memorial Fund in Wales: “Diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri a rhoddion hael eraill y bu’n bosibl cynhyrchu’r arddangosfa a chyhoeddi llyfryn y llynedd yn coffau 70 mlynedd ers suddo’r llong.

“Daeth y deunydd hollbwysig ar gyfer yr arddangosfa oddi wrth deuluoedd a rannodd eu profiadau am drychineb yr Arandora Star. Am ryw reswm, mae pobl Cymru, yn Gymry ac Eidalwyr, wedi cadw’n dawel am y drasiedi am 70 mlynedd. Wrth i aelodau’r Gronfa ddechrau clywed hanesion teimladwy y daeth yr ysbrydoliaeth i mi am deitl yr arddangosfa i mi, Wales breaks its silence… from Memories to Memorial.

Ian Smith, Curadur Diwydiant Cyfoes a Modern yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fu’n gweithio gyda Paulette ar yr arddangosfa, a dywedodd yntau: “Mae’n fraint gennym gynnal yr arddangosfa arbennig a theimladwy hon. Wyddwn i ddim byd am y drychineb hon tan dair blynedd yn ôl a’r anghyfiawnder a brofodd y gymuned Gymreig o dras Eidalaidd  o ganlyniad i ofn a phanig y rhyfel. Dim ond wrth ddarllen paneli’r arddangosfa y deallais i fy mod i’n arfer adnabod un o’r rhai a oroesodd pan oeddwn i’n blentyn – Mr Angelo Greco oedd yn rhedeg caffi yn Hafod, Abertawe, ac yn gwneud yr hufen iâ gorau yn y byd! Mae’r arddangosfa hon yn ein hatgoffa pa mor gyflym y gall ffrindiau a chymdogion droi yn elynion o ganlyniad i ddigwyddiadau ymhell o’u stepen drws.”

Mae digwyddiadau eraill a drefnwyd i gyd-fynd â’r arddangosfa yn cynnwys:

  • Pwdin Stêm, Hufen Iâ a Gwydr Mân sgwrs ar ddydd Sul 2 Hydref gan David Evans (2.30pm) yn sôn am ddiwylliant caffi cynnar de Cymru a’r cyswllt â’r Arandora Star.
  • Darlith hwyrol arbennig ar ddydd Llun 17 Hydref (7pm) gan Simon Rees o Opera Cenedlaethol Cymru fydd yn datgelu etifeddiaeth Adelina Patti, ei gyrfa a recordiadau ohonni yn ogystal â datgelu rhai cysylltiadau diddorol â’r arddangosfa.
  • Yr Eidal trwy lygaid Terry Clarke (dydd Sul 23 Hydref, 2.30pm), sgwrs lle bydd Terry yn rhannu ei hoff bethau cerddorol gan dynnu sylw at ddylanwad yr Eidal.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  • Dylai aelodau’r wasg sydd am dynnu lluniau, cynnal cyfweliad neu am ragor o wybodaeth, gysylltu â Marie Szymonski ar 01792 638970.
  • Bydd Wales Breaks its Silence…From Memories to Memorial yn cael ei dangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tan 30 Hydref 2011.
  • Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.
  • Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru
    ·         Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
    ·         Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
    ·         Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
    ·         Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
    ·         Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach
    ·         Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
    ·         Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe