Datganiadau i'r Wasg

Penodi Is-Lywydd Newydd Amgueddfa Cymru

Mae'r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, a Llywydd Amgueddfa Cymru, Elisabeth Elias, wedi cyhoeddi enw Is-Lywydd newydd Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa.

Yr Is-Lywydd newydd yw Dr Haydn Edwards. Bydd ei gyfnod fel Is-Lywydd sydd wedi'i benodi gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn parhau o 1 Hydref 2011 hyd 30 Medi 2015. Mae Dr Edwards yn un o Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa ar hyn o bryd.

Dywedodd Huw Lewis: “Mae'n bleser gen i benodi Dr Haydn Edwards yn Is-Lywydd Amgueddfa Cymru. Mae Dr Edwards eisoes wedi gwneud cyfraniad sylweddol fel Ymddiriedolwr ac rwy'n siŵr y bydd ei sgiliau a'i brofiad yn ei wneud yn ased gwirioneddol i'r sefydliad.”

Dywedodd Mrs Elisabeth Elias, Llywydd Amgueddfa Cymru: “Rwy'n croesawu'r penodiad hwn yn fawr ac yn edrych ymlaen at gydweithio â Dr Haydn Edwards yn ei rôl fel Is-Lywydd. Mae Dr Edwards eisoes wedi dangos ei ymroddiad i'r Amgueddfa fel Ymddiriedolwr ac mae eisoes wedi cyfrannu llawer iawn o brofiad a doethineb tuag at waith y Bwrdd. Rydym yn ffodus iawn ei fod yn awyddus i dderbyn rhagor o gyfrifoldeb fel Is-Lywydd.”

Dr Haydn Edwards yw cyn Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Menai, sef un o brif golegau addysg bellach Cymru. Enillodd Ddoethuriaeth ym maes biocemeg ac ymbelydredd, a threuliodd dair blynedd fel cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Notre Dame, Indiana yn yr 1970au, cyn cael ei benodi'n Uwch Wyddonydd Ymchwil yn Sefydliad Gogledd-ddwyrain Cymru. Bu'n Bennaeth ar Goleg Pencraig ac yna Coleg Technegol Gwynedd cyn derbyn swydd Pennaeth Coleg Menai ym 1994. Mae wedi meddu ar sawl penodiad cyhoeddus, gan gynnwys aelodaeth o ELWa a Grŵp y Fargen Newydd i Gymru. Mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol ag Estyn ar hyn o bryd a chafodd ei benodi gan Weinidog yn Gadeirydd Panel y Sector Bwyd a Ffermio Llywodraeth Cymru. Nid yw'n derbyn unrhyw dâl am y gwaith yma. Mae gan Dr Edwards wybodaeth helaeth am y byd addysg yng Nghymru ac mae ganddo ddiddordebau helaeth ac amrywiol iawn sy'n berthnasol i waith yr Amgueddfa.

DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Non Jones ar 029 2089 8490 neu Kate James ar 029 2089 8169

Nodiadau i'r golygyddion

* Y broses benodi

Bydd penodiad Dr Haydn Edwards gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn parhau am 4 blynedd. Caiff cyfnod pellach o 4 blynedd ei gynnig gan amlaf, cyn belled â bod yr ymddiriedolwyr yn hapus â'r penodiad a bod deiliad y swydd yn ei chyflawni'n foddhaol. Serch hynny, gan fod Dr Haydn Edwards yn Ymddiriedolwr ers 1 Tachwedd 2007, ni all wasanaethu fel Is-Lywydd am gyfnod hwy na 4 blynedd.

Ni chaiff aelodau'r Bwrdd dâl am eu gwaith, ond caiff unrhyw gostau teithio a chostau cynhaliaeth rhesymol eu had-dalu. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn a disgwylir i'r Ymddiriedolwyr fod yn aelodau o is-bwyllgorau hefyd.

Sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1907, ac mae'n parhau'n endid cyfreithiol ac yn elusen o dan yr enw hwn. Mae'n elusen gofrestredig annibynnol, ac yn derbyn ei chyllid craidd drwy grant cymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Prif nod yr Amgueddfa yw ‘hyrwyddo ac addysgu'r cyhoedd' drwy ddatblygu mynediad i'r casgliadau, gofalu amdanynt, eu hastudio a thrwy eu cynnal er lles y gymdeithas am byth. Mae'r Siartr yn nodi y caiff hyn ei gyflawni ‘yn bennaf drwy ddangos yn gyflawn ddaeareg, mwynoleg, sŵoleg, botaneg, ethnograffeg, archaeoleg, celf, hanes a diwydiannau arbennig Cymru drwy gasglu, gwarchod, esbonio, cyflwyno a chyhoeddi pob gwrthrych a pheth o'r fath'

O dan Siarter atodol 2006, mae gan yr Amgueddfa 16 o Ymddiriedolwyr. Mae Gweinidogion Cymru yn penodi naw o Ymddiriedolwyr, sy'n cynnwys y Llywydd a'r Is-Lywydd. Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa yn penodi saith o Ymddiriedolwyr sy'n cynnwys y Trysorydd. Mae Llywodraeth Cymru a'r Amgueddfa'n ymgynghori â'i gilydd wrth wneud pob penodiad.

Caiff yr Is-Lywydd ei benodi gan y Gweinidog yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

Caiff pob unigolyn ei benodi ar sail teilyngdod ac ni chaiff gweithgarwch gwleidyddol ei ystyried yn y broses ddethol. Eto i gyd, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyn i weithgarwch gwleidyddol unigolion a benodir (os cânt eu datgan) gael ei gyhoeddi. Datganodd Dr Haydn Edwards nad oedd wedi ymwneud ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol dros y pum mlynedd diwethaf.