Datganiadau i'r Wasg

David Jones – Paentiadau a Lluniau Dyfrlliw yn Amgueddfa genedlaethol Caerdydd

Mae David Jones yn unigryw ymhlith arlunwyr Prydeinig yr ugeinfed ganrif, a chyfeirir ato yn aml fel y bardd-arlunydd gorau ers William Blake. Mae detholiad o waith rhagorol Jones o gasgliad Amgueddfa Cymru David Jones (1985-1974): Paentiadau a Lluniau Dyfrlliw ar arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 5 Tachwedd 2011 – 4 Mawrth 2012.

 

Eiddo Amgueddfa Cymru yw’r prif gasgliad cyhoeddus o waith Jones, ond gan mai lluniau dyfrlliw a greodd yn bennaf, nid yw’r lluniau yma yn cael eu harddangos yn barhaol oherwydd natur bregus lluniau dyfrlliw. Y cyfrwng hwnnw sy’n cael sylw yma, a bydd arddangosfa arall yn dilyn (mis Mawrth – mis Gorffennaf) a fydd yn canolbwyntio ar ei engrafiadau, darluniau mewn llyfrau, ac arysgrifiadau.

Fel Blake Llundeiniwr ydoedd a anwyd yn Brockley, gogledd Caint, ond ag yntau’n fab i Gymro a Saesnes, roedd tirwedd, iaith a chwedlau Cymru yn ddylanwadau mawr ar ei waith.

Aeth i ysgol gelf cyn gorfod hel ei bac i’r ffosydd yn y Rhyfel Mawr. Ym 1921, daeth yn ddisgybl i’r artist-grefftwr Eric Gill, ac ymgartrefodd gyda Gill a’i deulu am ran helaeth o’r 1920au.

Ym 1924, symudodd Gill i Gapel-y-ffin yng nghanol y Mynyddoedd Duon a datblygodd Jones weledigaeth o dirwedd Sir Frycheiniog oedd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yng nghelf Cézanne. Bu’n aelod o fudiad arddangoswyr modernaidd y Seven and Five Society rhwng 1928 a 1935.

Gadawodd greithiau’r rhyfel eu hôl yn barhaol ar Jones, a dyma oedd testun ei gerdd fawr gyntaf In Parenthesis (1937).Cafodd chwalfa nerfol ddifrifol ym 1932 ac eto ym 1947, a effeithiodd yn ddirfawr ar ei allu i weithio. Mae ei baentiadau diweddarach yn rai hynod bersonol ac yn gyforiog o themâu diwinyddol, hanesyddol a chwedlonol

Mae dau sgwrs celf amser cinio ar David Jones. Ymunwch â Dr Anne Price-Owen (Prifysgol Fetropolitan Abertawe) ar gyfer David Jones – cyflwyniad i waith yr artist a’r arddangosfa ar 18 Tachwedd am 1pm. Mae Dr Price-Owen wedi bod yn addysgu ac yn darlithio ers 1970, ac mae hi hefyd yn artist ac yn guradur.Ym 1996, sefydlodd hi Gymdeithas David Jones sydd ag aelodau ym mhob cwr o’r byd. Mae hi wedi cyhoeddi llawer o waith am Jones, ac yn ddiweddar cwblhaodd ffilm am ei fywyd cynnar.

Ar ddydd Gwener 2 Rhagfyr am 1pm, ymunwch â

, Oliver Fairclough, Ceidwad Celf, Amgueddfa Cymru, ar gyfer Newid Agweddau: David Jones yn yr Amgueddfa 1932 – 2000. Erbyn hyn, ystyrir David Jones yn un o artistiaid a beirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif, ond rhoddion a dderbyniwyd yn gyndyn oedd ei weithiau cyntaf yn y casgliad.

Dywedodd Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru, "Mae'r orielau newydd celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ein galluogi i arddangos mwy o'r celf sydd ganddom yn ein casgliad. Rwy'n gobeithio y bydd ymwelwyr yn rhannu fy nghyffro o weld y gwaith hardd yma yn cael ei arddangos."