Datganiadau i'r Wasg

Coeden Nadolig wahanol!

bellach wedi’i chodi yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y goeden 11 troedfedd o arddangosfa Tic Toc, Ar Amser!, ac mae myfyrwyr Ysgol Dylunio Diwydiannol Prifysgol Fetropolitan Abertawe wedi defnyddio eu doniau i greu coeden Nadolig ryngweithiol.

Rhoddwyd briff i’r myfyrwyr ail flwyddyn ym mis Medi i greu coeden wahanol i ymwelwyr ei mwynhau dros y Nadolig hwn.

Roedd yn rhaid i’r darn gadw rhyw elfen Nadoligaidd yn ogystal â a bod yn gerflun addurnol oedd â chysylltiad agos â’r arddangosfa.

“Mae dyluniad y myfyrwyr yn taro’r hoelen ar ei phen,” meddai’r Awdur Orielau Andrew Deathe. “Mae nhw wedi defnyddio eu dychymyg ac mae’r gwaith terfynol yn syfrdanu ac yn ateb y briff yn dda.”

Mae’r goeden yn sefyll ym mhrif neuadd yr Amgueddfa, a gwahoddir ymwelwyr i droi dolen sy’n cludo peli Nadoligaidd i frig y goeden cyn disgyn i’r gwaelod ar hyd sawl llwybr gwahanol.

Wrth siarad am y project dywedodd y darlithydd Christopher Thomas: “Gall ein myfyrwyr fod yn hynod falch o broffesiynoldeb y cynnyrch gorffenedig. Fe gymrodd hi lawer o waith tîm ac ymroddiad unigol i gwblhau’r gwaith erbyn y diwrnod cau.

“Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben unwaith eto i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am y cyfle hwn a hoffem hefyd estyn ein diolch i’r myfyrwyr am eu hymroddiad.”

Nodiadau i’r golygydd

Bydd Tic Toc, Ar Amser yn rhedeg o ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr i ddydd Sadwrn 25 Chwefror.

Os hoffai aelodau o’r wasg gyfle i dynnu lluniau, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Diolch i Lywodraeth Cymru, mae mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru
·         Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
·         Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
·         Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
·         Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
·         Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach
·         Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
·         Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe